Mae Cyfrinfa 671 Tywysog Cymru wedi bod mor garedig â rhoi £600 i Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip.
Ffurfiwyd Cyfrinfa'r Seiri Rhyddion, Cyfrinfa hynaf y Seiri Rhyddion yn Llanelli, ym 1856 ac mae ganddi tua 40 o aelodau o bob oed.
Prif nod y Seiri Rhyddion yw codi arian at achosion elusennol, yn Seiri Rhyddion a'r rhai nad ydynt yn Seiri Rhyddion. Daw’r holl arian a godir o gefnogaeth aelodau trwy roddion misol a’u cronfa elusennol.
Dywedodd Adrian Hallett, Stiward Elusennol: “Rydym ni, fel Seiri Rhyddion, yn falch o’r ffaith mai ni, yn ail i’r Loteri Genedlaethol, yw’r rhoddwyr mwyaf i elusennau yn y wlad.
“Yn ogystal â chefnogi elusennau cenedlaethol, rydym yn hoffi cefnogi elusennau lleol bach yn eu hymdrech codi arian. Gwelsom yr erthygl yn ddiweddar ynglŷn â gerddi wardiau Mynydd Mawr a Bryngolau yn Ysbyty Tywysog Philip a phenderfynwyd y byddem yn hoffi cefnogi’r fenter hon a rhoi £600 i’r achos.
“Rydym yn falch iawn o gynorthwyo. Teimlwn oll y bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r cynnydd y mae cleifion yn ei wneud gyda’u hadsefydliad. Mae ymchwil wedi dangos bod therapi mewn mannau gwyrdd yn gwella canlyniadau cleifion.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem anfon ein diolch diffuant i aelodau Cyfrinfa 671 Tywysog Cymru am eu rhodd garedig a fydd yn ein helpu i greu’r mannau gwyrdd therapiwtig y gall cleifion a staff elwa arnynt. o flynyddoedd lawer i ddod.”
I gael rhagor o wybodaeth am Apêl Gerddi Tywysog Philip, ewch i: https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/campaigns/pph-gardens-appeal/