Neidio i'r prif gynnwy

Apel Cemo Bronglais

Mae’n bleser gennym adrodd bod Apêl Cemo Bronglais bellach wedi pasio ei tharged o £500,000!

Nod yr Apêl oedd codi £500,000 i wireddu ein breuddwyd o ddarparu uned ddydd cemotherapi bwrpasol ar gyfer Ysbyty Cyffredinol Bronglais.

Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.

O ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu dros y misoedd nesaf. Felly, bydd rhagori ar y targed gwreiddiol o fudd mawr i'r prosiect.

Mae cam dylunio technegol y prosiect eisoes wedi dechrau, ac rydym yn rhagweld y bydd gwaith adeiladu yn dechrau yn 2023. Y targed yw i'r uned cemotherapi newydd fynd yn fyw yn 2024. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi!

Darllenwch fwy yma (agor mewn dolen newyd)

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01970 613881 neu anfonwch e-bost atom yn: bronglaischemoappeal.hdd@wales.nhs.uk.

Diolch am eich cefnogaeth!

Dilynwch ni: