Neidio i'r prif gynnwy

Naid am Nawdd

Gwnewch Naid am Nawdd ar gyfer eich elusen GIG! Os oes gennych chi ddiddordeb mewn creu diwrnod gwirioneddol cofiadwy wrth godi arian i dîm Hywel Dda, beth am roi cynnig arni?

 

Am y digwyddiad

Mewn partneriaeth â Skyline Events, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn cynnig cyfle i gefnogwyr neud Naid am Nawdd o unrhyw faes awyr cymwys mewn partneriaeth â Skyline Events. Mae hyn yn cynnwys 20 maes awyr ar draws y DU (gan gynnwys Abertawe).

Gall codwyr arian gymryd rhan yn y digwyddiad unrhyw adeg o'r flwyddyn a gallant ddewis dyddiad sy'n addas iddyn nhw!

 

Sut ydw i’n cofrestru?

  1. Ewch i New Booking - Skyline Events (skylineskydiving.co.uk) 
  2. Dewiswch Elusennau Iechyd Hywel Dda fel yr elusen yr ydych yn codi arian ar ei chyfer.

 

Addewid codi arian

I gymryd rhan mewn Naid am Nawdd elusennol ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda, bydd angen i chi dalu ffi gofrestru o £70 (sy’n daladwy’n uniongyrchol i Skyline wrth gofrestru) ac addo codi isafswm o £395 mewn nawdd i’n helusen. Pan gyrhaeddwch eich targed telir eich costau!

Sylwch y gallwch ddewis cefnogi ysbyty, ward, gwasanaeth neu adran benodol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda NEU gallwch ddewis codi arian at ddibenion elusennol cyffredinol. Mae codi arian at ddibenion elusennol cyffredinol yn golygu y bydd eich arian yn cael ei wario lle a phryd y mae ei angen fwyaf.

 

Talu am y Naid am Nawdd eich hun

Fel arall, gallwch dalu am y Naid am Nawdd eich hun a rhoi gwybod i ni eich bod wedi sicrhau eich Naid am Nawdd eich hun drwy gysylltu â'r tîm codi arian ar 01267 239815 or codiarian.hyweldda@wales.nhs.uk.

Dilynwch ni: