Neidio i'r prif gynnwy

Codwyr arian yn trefnu dawns elusennol er budd Apêl

Yn y llun uchod: Lowri (chwith) gyda'i thaid a Lisa.

 

Dewch o hyd i'ch dillad parti gorau! Mae'r cefndryd Lowri Elen Jones, 19 oed o Beniel yn Sir Gaerfyrddin, a Lisa Ann Evans, 21 oed o Langybi yng Ngheredigion, yn trefnu dawns elusennol, raffl ac ocsiwn er budd Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip.

Cynhelir y digwyddiad yn Neuadd Bronwydd, Caerfyrddin am 7:00pm ddydd Sadwrn 15 Mehefin 2024.

Nod Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip yw ariannu gerddi therapiwtig newydd i gleifion yn Ward Mynydd Mawr, uned adsefydlu gofal henoed 15 gwely, a Ward Bryngolau, uned iechyd meddwl oedolion hŷn 15 gwely. Mae'r wardiau wedi'u lleoli drws nesaf i'w gilydd ar lawr gwaelod yr ysbyty ac mae ganddynt fynediad i le awyr agored caeedig. Fodd bynnag, nid yw'r gofod hwn yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ac nid yw'n addas ar gyfer cleifion.

Penderfynodd Lowri a Lisa drefnu’r digwyddiad er budd yr Apêl gan fod eu tad-cu, Hywel Griffiths, yn glaf ar Ward Bryngolau.

Dywedodd Lowri: “Mae’r achos teilwng hwn yn agos iawn at ein calonnau fel teulu. Rydym wedi penderfynu cynnal dawns i godi arian at yr Apêl i ddangos ein gwerthfawrogiad a’n diolchgarwch i’r ward.

“Mae fy Nhad-cu yn gyn-ffermwr, felly mae wedi arfer ag awyr iach a bod allan ym mhob tywydd.

“Yn ôl ym mis Awst 2023, cafodd ei symud i Ward Bryngolau. Siomedig oedd gwybod nad oedd y man awyr agored yn addas ar gyfer y cleifion, o gofio pa mor bwysig yw fitamin D i’n hiechyd meddwl, heb sôn am glaf sydd mewn gofal i wella eu hiechyd meddwl. Bydd y gerddi hyn o fudd i bob claf ar y ward beth bynnag fo'u cefndir.

“Gwerthodd y tocynnau’r ddawns allan mewn llai nag wythnos ar ôl i ni eu rhyddhau. Roeddwn i a Lisa wedi fy syfrdanu gan faint o ddiddordeb a chefnogaeth a gawsom gan ffrindiau. Ein nod yw codi cymaint o arian â phosibl er mwyn gallu helpu’r holl gleifion, staff ac ymwelwyr ar y ward.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Lowri a Lisa am drefnu digwyddiad mor wych er budd yr Apêl.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Os hoffai unrhyw un brynu tocyn raffl neu roi cyfraniad tuag at y digwyddiad, cysylltwch â Lowri ar 07903 128183.

I gael rhagor o wybodaeth am Apêl Gerddi Tywysog Philip, ewch i:

 https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd-a-digwyddiadau/apel-gerddi-ysbyty-tywysog-philip/

Dilynwch ni: