Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiadau codi arian yn codi dros £12,000 ar gyfer uned cemo

Yn y llun uchod: Tomos Jones, Sarah Davies ac Alberto Almeida gyda staff o'r uned cemo.

 

Mae Alberto Almeida, Sarah Davies a Tomos Jones wedi codi £12,600 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.

Dechreuodd Alberto, sydd wedi derbyn triniaeth yn yr uned, godi arian ym mis Medi 2023. Trefnodd dwrnamaint pêl-droed elusennol, ac yna noson elusennol yn Neuadd Llangain yng Nghaerfyrddin a oedd yn cynnwys raffl ac arwerthiant.

Fe wnaeth Tomos Jones, mab bedydd, 14 oed Alberto, gymryd rhan yn y gwaith codi arian drwy awgrymu i'w gyd-chwaraewyr rygbi y dylen nhw gymryd rhan yn y nofio môr ar Ddydd San Steffan yn Ninbych-y-pysgod a gododd y swm gwych o £1,600 tuag at yr achos.

Dywedodd Sarah Davies, Gwraig Alberto: “Mae Alberto yn ymwybodol iawn o’r gwaith caled a wneir yn yr uned gan yr holl staff. Mae'n hynod ddiolchgar iddynt am eu holl ofal a chefnogaeth. Mae'n teimlo eu bod nhw i raddau helaeth ar y daith gydag ef. Byddwn ni fel teulu yn ddiolchgar am byth am eu hymroddiad.

“Rwyf wedi bod yn hyderus wrth ei ollwng wrth y drws bob pythefnos gan wybod y byddant yn gofalu amdano yn gorfforol ac yn emosiynol tra ei fod yn eu gofal. Mae hynny’n gysur enfawr ac yn mynd yn bell iawn i’n helpu i ymdopi â’n sefyllfa.

“Daeth cymaint o bobl i gefnogi’r twrnamaint pêl-droed a’r noson codi arian. Mae haelioni pobl wedi bod yn arbennig. Mae'n drist sylweddoli faint o bobl sydd eisoes wedi defnyddio'r uned cemo, a faint sydd byth yn gwybod a fyddent ei angen un diwrnod. Ni wnaethom erioed ddychmygu dwy flynedd yn ôl y byddai'n dod yn rhan mor enfawr o'n bywydau, ac rydym yn ddiolchgar bob dydd am y gwaith y maent yn ei wneud.

“Rydym yn falch iawn o Tomos am awgrymu Dip Môr Gŵyl San Steffan, ac yn ddiolchgar i’w gyd-chwaraewyr am gytuno i ymuno ag ef. Diolch i’r bechgyn pêl-droed pump bob ochr am drefnu’r twrnamaint, ac i ffrindiau, teulu, cymdogion a busnesau lleol am gefnogi’r noson codi arian, a thîm Rygbi Dan-14 Sanclêr am wneud y dip môr.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym am ddiolch i Alberto, Sarah a Tomos am godi swm mor wych ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: