Neidio i'r prif gynnwy

Bachgen ysgol i redeg 5k er cof am ei Fodryb

Yn y llun uchod: Rowan a'i Anti Sharon.

Mae Rowan Nickerson, 12 oed o Sir Benfro, yn cymryd rhan yn ras ffordd 5k Penwythnos y Cwrs Hir er cof am ei annwyl Fodryb Sharon.

Y digwyddiad, a gynhelir ar 23 Mehefin 2024, fydd ras ffordd 5k gyntaf erioed Rowan. Mae Rowan wedi cymryd rhan yn y digwyddiad LCKinder Penwythnos Cwrs Hir i blant yn y gorffennol.

Ddwy flynedd yn ôl, yn anffodus bu farw Sharon.

Dywedodd Rowan: “Cafodd ein bywydau eu newid am byth pan gollodd fy Modryb Sharon ei brwydr yn erbyn canser. Llwyddodd i dderbyn ei thriniaeth yn agos i'w chartref yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Llwynhelyg.

“Roeddwn i eisiau codi arian a rhoi rhywbeth yn ôl i ddiolch am y gofal a gafodd fy Modryb Sharon.”

Bydd ymgyrch Rowan yn mynd tuag at raglen newydd Heads Up! Gwasanaeth Cymorth Colli Gwallt Canser yn Ysbyty Llwynhelyg. Mae'r "Heads Up” yn darparu gwasanaeth colli gwallt cyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer cleifion canser. Mae'n dod â gweithwyr gofal iechyd a gofal gwallt proffesiynol o'n cymuned leol ynghyd i roi'r wybodaeth a'r cynhyrchion sydd eu hangen ar gleifion i reoli eu colli gwallt ag urddas a dewis.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw'r cyntaf yng Nghymru i redeg y fenter hon a ariennir gan elusen i wella profiad cleifion o golli gwallt sy'n gysylltiedig â chanser.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddweud pob lwc i Rowan ar gyfer ei 5k sydd i ddod. Hon fydd trydedd flwyddyn Rowan yn cefnogi ein helusen drwy gymryd rhan mewn digwyddiad Penwythnos Cwrs Hir. Rydym yn hynod ddiolchgar am dy gefnogaeth, Rowan!

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Cyfrannwch at ymgyrch Rowan yma:https://hyweldda.enthuse.com/pf/rowan-nickerson

Dilynwch ni: