Neidio i'r prif gynnwy

Mis Gwneud Eich Ewyllys

Yn cael ei gynnal ar 1-31 Mai 2024, mae Mis Gwneud Eich Ewyllys yn ein gweld yn ymuno â chyfreithwyr ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. Yn ystod y mis, mae’r cyfreithwyr yn ildio eu ffi arferol i helpu ein cefnogwyr i wneud neu ddiweddaru eu hewyllys yn gyfnewid am rodd i’n helusen.

 

Pam cymryd rhan?

Mae Mis Gwneud Eich Ewyllys yn gyfle gwych i ysgrifennu neu ddiweddaru eich ewyllys am gost lawer is. Mae hefyd yn gyfle i chi sicrhau bod y bobl rydych chi’n eu caru, a’r elusennau rydych chi’n eu cefnogi, yn cael eu cofio yn eich ewyllys.

Rhoddion cymynroddol yw traean o’n hincwm cyffredinol, felly heb roddion mewn ewyllysiau, ni fyddai ein gwaith ar draws y bwrdd iechyd yn bosibl.

 

Sut i gymryd rhan?

I gymryd rhan ym Mis Gwneud Eich Ewyllys, dilynwch y camau syml hyn:

  1. Yn gyntaf, cliciwch yma a llenwi ein ffurflen gais. Mae’r ffurflen yn cynnwys dolen i’n tudalen Enthuse lle gallwch wneud eich rhodd (cofiwch glicio ‘wedi talu’ cyn cyflwyno’r ffurflen).

Gofynnwn am isafswm rhodd o £90 am ewyllys sengl a £175 am fwy nag un. Mae'r rhain yn gyfraddau llawer is o gymharu ag apwyntiad ewyllys arferol.

2. Yna byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau bod eich taliad wedi'i wneud. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi am eich cyfreithiwr agosaf sy’n cymryd rhan, a byddwn yn hysbysu’r cyfreithiwr eich bod wedi talu ac y byddwch yn cysylltu â nhw.

3. Gallwch nawr gysylltu â'r cyfreithiwr i drefnu apwyntiad.

 

Y gwahaniaeth a wnewch

Camsyniad cyffredin yw bod yn rhaid i gymynrodd fod yn swm enfawr o arian. Nid yw hyn yn wir. Waeth pa mor fach neu fawr yw eich rhodd gallwch fod yn sicr y bydd yn gwneud gwahaniaeth i'n gwaith.

Bydd hyd yn oed rhodd o 1% o'ch ystâd i Elusennau Iechyd Hywel Dda yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran darparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer.

Mae ein helusen yn codi ac yn dosbarthu arian i wella ein gwasanaethau GIG lleol trwy:

• Cynnig cysuron ychwanegol i gleifion i wneud yr amser a dreulir yn yr ysbyty yn fwy cyfforddus

• Darparu'r offer meddygol diweddaraf ar gyfer diagnosis a thriniaeth

• Creu amgylchoedd mwy croesawgar i gleifion, eu teuluoedd a staff

• Cefnogi dysgu a datblygiad staff a mentrau lles

• Gwella gofal yn ein cymunedau lleol

• Cyflwyno mentrau byw'n iach a hybu iechyd.

I gael rhagor o wybodaeth am yr effaith enfawr y mae eich rhoddion a’ch cymynroddion yn ei chael, ewch i dudalen Eich Effaith.

 

Diolch am eich cefnogaeth!

Dilynwch ni: