Neidio i'r prif gynnwy

Codwr arian i ymgymryd â 14 marathon mewn 14 diwrnod ar gyfer uned cemo

Yn y llun uchod: Samantha Lewis

 

Bydd Samantha Lewis o Borth Tywyn yn rhedeg 14 marathon mewn 14 diwrnod i godi arian ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Phillip.

Bydd y sialens yn dechrau ar 7 Ebrill 2024 ym Marathon Brighton. Bydd Samantha wedyn yn aros dros nos, yn rhedeg marathon arall yn y bore ac yn mynd yn ôl i Borth Tywyn i wneud y 12 arall.

Dywedodd Samantha: “Penderfynais redeg 14 marathon mewn 14 diwrnod oherwydd bod ffrind amser hir fy ngŵr, Wayne Evans, wedi cael diagnosis o ganser y pancreas.

“Yn anffodus bu farw Wayne eleni a derbyniodd ofal yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Phillip.

“Mae fy hyfforddwr rhedeg, Gary Howells, yn fy helpu i gadw ar y trywydd iawn ac yn gwneud yn siŵr fy mod yn gwneud popeth posibl i’m paratoi ar gyfer y sialens. Mae’r ymarfer yn cynnwys dechrau'n gynnar iawn yn y bore er mwyn i mi allu rhedeg cyn gwaith.

“Mae hyfforddiant yn mynd yn dda iawn, yn anodd ffitio’r cyfan i mewn o amgylch bywyd teuluol a gwaith ond rwy’n ymdopi, nid yw’n ddim byd o’i gymharu â’r frwydr y mae cleifion canser yn ei hwynebu. Adeiladodd fy ngŵr gampfa yn yr ardd gyda peiriant rhedeg felly mae hynny'n help enfawr. Byddaf yn onest, mae’r corff wedi blino ond yn teimlo’n barod iawn am yr hyn sydd i ddod.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym am anfon pob lwc a diolch enfawr i Samantha wrth iddi ymgymryd â’i her anhygoel. Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Cyfrannwch i godwr arian Samantha yma: https://www.justgiving.com/crowdfunding/samantha-lewis-557?utm_source=Facebook&fbclid=IwAR1XOzYeRRSTcR-tZqLyA1yuXCnPxOcrJmJNPxuVhrbSeTjFxmpVPRTpsrI

Dilynwch ni: