Neidio i'r prif gynnwy

Consolau gemau newydd yn cael eu hariannu i helpu pobl ifanc mewn argyfwng

Yn y llun uchod: Aelod o staff gyda chonsol gemau newydd.

 

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu consolau gemau ac ategolion ar gyfer Hyb Llesiant Bro Myrddin newydd yn Nhre Ioan, Sir Gaerfyrddin.

Yr hyb newydd yw canolbwynt argyfwng iechyd meddwl cyntaf Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen cymorth brys ac mae ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Mae’n darparu gwasanaeth iechyd meddwl bwrpasol 24 awr y dydd ar gyfer plant a phobl ifanc yn yr amgylchedd cywir, ar adeg pan fo’i angen fwyaf arnynt. Mae Bro Myrddin yn darparu lle diogel i blant a phobl ifanc sy'n wynebu argyfwng, gan atal derbyniadau gofidus a diangen i wardiau damweiniau ac achosion brys ac iechyd meddwl.

Mae elusen y GIG wedi ariannu consol X-Box, consol PlayStation, rheolyddion, gorsafoedd docio a sawl gêm.

Bydd y consolau a'r ategolion yn cael eu defnyddio yn yr ystafelloedd hyb diogel gan bobl ifanc sydd mewn argyfwng.

Dywedodd Angela Lodwick, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i ni brynu’r offer newydd hwn.

“Bydd y consolau yn helpu’r bobl ifanc mewn argyfwng i gael rhywfaint o amser ymlacio. Gobeithiwn y byddant yn gwneud gwahaniaeth mawr i les y bobl ifanc a fydd yn defnyddio’r gwasanaeth.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: