Neidio i'r prif gynnwy

Siop Co-op lleol yn codi £1,997 i elusen

Yn y llun uchod: Staff y Co-op yn Llangennech a Claire Rumble, Swyddog Codi Arian.

 

Mae’r Co-op yn Llangennech, Llanelli, wedi codi swm gwych o £1,997 ar gyfer y Gronfa Dymuniadau drwy Gronfa Gymunedol Leol y Co-op.

Mae Cronfa Gymunedol Leol y Co-op yn cefnogi prosiectau ledled y DU y mae eu haelodau’n poeni amdanynt. Maent yn cydweithio mewn partneriaeth â miloedd o achosion lleol bob blwyddyn i'w helpu i godi cymaint o arian â phosibl.

Dewisodd y Co-op yn Llangennech y Gronfa Dymuniadau fel eu hachos ar gyfer 2022/23.

Mae’r Gronfa Dymuniadau yn ymgyrch sy’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ac sy’n bygwth bywyd a’u teuluoedd greu atgofion arbennig.

Dywedodd Rachel Brown, Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatrig: “Fel tîm rydym yn wirioneddol ddiolchgar i Gronfa Gymunedol Leol y Co-op a phawb a gefnogodd y Gronfa Dymuniadau.

“Bydd yr arian a dderbynnir yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’r plant, y bobl ifanc a’u teuluoedd yr ydym yn darparu gofal iddynt ar draws ein Bwrdd Iechyd. Hoffem ddiolch i bawb yn y gymuned am eu cefnogaeth, eu caredigrwydd a’u haelioni parhaus.

“Ethos ein tîm yw sicrhau ein bod yn cael effaith gadarnhaol ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau’r plant a’r bobl ifanc hyn. Bydd yr arian yn dod â llawer o lawenydd a hapusrwydd i’r plant a’r teuluoedd rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw sy’n aml yn wynebu ansicrwydd a heriau.”

Dywedodd Chloe Butler, Rheolwr Siop y Co-op yn Llangennech: “Mae’n bleser go iawn allu cyfrannu swm mor hyfryd i’r Gronfa Dymuniadau!

“Wedi’n huno gan ein cerdyn aelodaeth, ein hymrwymiad i roi yn ôl tra’n ennill gwobrau. Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi troi teyrngarwch yn dosturi, gan drawsnewid pob pryniant yn gyfraniad ystyrlon.”

Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian Sir Gaerfyrddin ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Bydd y cyllid gwych hwn gan y Co-op yn helpu i greu atgofion parhaol i’r plant a’u teuluoedd drwy alluogi’r tîm Gofal Lliniarol Pediatrig i drefnu gweithgareddau arbennig megis teithiau diwrnod i'r teulu a mynediad i ddigwyddiadau.

“Bydd y cyllid yn helpu i ddarparu teganau, deunyddiau celf a chrefft ar gyfer chwarae therapiwtig i helpu plant a phobl ifanc i brosesu a deall yr hyn y maent yn ei brofi yn ogystal â darparu llyfrau cydymdeimlad personol a ‘Be Brave Teddy Bears’ ar gyfer brodyr a chwiorydd.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dysgwch fwy am Gronfa Cymunedol Leol y Co-op yma:

 https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/cefnogwch-ni/cyfrannwch-wrth-i-chi-siopa/

Dilynwch ni: