Neidio i'r prif gynnwy

Rhoddion elusennol yn ariannu crud cynnal newydd ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU)

Diolch i roddion i Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae crud cynnal newydd gwerth dros £30,000 wedi’i ariannu ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.

Mae’r Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn gofalu am rai o’r babanod newydd-anedig mwyaf agored i niwed ac yn gwasanaethu teuluoedd ar draws canolbarth a gorllewin Cymru.

Mae’r uned o’r radd flaenaf wedi’i hadeiladu’n bwrpasol i ddiwallu anghenion babanod newydd-anedig a’u teuluoedd, yn ogystal â’r tîm newyddenedigol sy’n gofalu amdanynt.

Bydd y crud newydd, sy’n werth dros £30,000, yn darparu swyddogaethau ychwanegol megis mynediad gwell, gwres uwchben i helpu i gynnal tymheredd y corff, a’r gallu i gael ei ddefnyddio fel ‘crud agored’ i gynorthwyo gydag oeri babanod.

Dywedodd Sandra Pegram, Rheolwr Uned Gofal Arbennig Babanod: “Rydym wrth ein bodd bod Crud Cynnal Giraffe Omnibed newydd wedi’i brynu drwy gronfeydd elusennol.

“Bydd yr offer newydd yn helpu i ofalu am bedwar babi sydd angen gofal dibyniaeth fawr ac un babi sydd angen sefydlogi dwys. Mae angen crud cynnal o fewn SCBU i gadw babanod cynamserol yn gynnes, maent hefyd yn darparu gwelededd da o fabanod cynamserol a sâl heb achosi gormod o aflonyddwch.”

Yn y gorffennol mae rhoddion elusennol wedi helpu i brynu amrywiaeth o eitemau ar gyfer yr uned sy’n cynnwys offer arbenigol fel dadansoddwyr ocsigen a monitor i gynorthwyo gyda monitro gweithgaredd yr ymennydd yn ogystal ag eitemau sy’n ceisio gwneud amser y teulu yn yr uned mor gyfforddus â phosibl gyda’r nod o wella eu profiad cyffredinol o'r SCBU.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.

“Mae’r crud cynnal newydd yn dangos sut y gall rhoddion wneud gwahaniaeth sylweddol i brofiad y claf drwy ddarparu’r dechnoleg ddiweddaraf i’r GIG lleol. Diolch enfawr i bawb y mae eu rhoddion hael wedi gwneud hyn yn bosibl.”

Dilynwch ni: