Neidio i'r prif gynnwy

Merch ysgol yn codi dros £600 ar gyfer ward strôc

Yn y llun uchod: Emily Pegram gyda’r staff.

 

Gwerthodd codwr arian, Emily Pegram, 10 oed, gwpanau, matiau diod, clociau, llieiniau sychu llestri gyda'i phrintiau arnynt yn ogystal â gemwaith a wneir cartref a chodwyd £653 gwych i Ward 9 yn Ysbyty Tywysog Philip.

Gan ddefnyddio ei chreadigrwydd, gwnaeth Emily brintiau ar gynfasau gyda phaent acrylig. Gyda chymorth ei mam, Sandra, rhoddodd y printiau ar gwpanau, matiau diod, clociau a llieiniau sychu llestri.

Gwnaeth Emily hefyd glustdlysau, mwclis, cylchoedd allweddi a llyfrnodau, a gwerthodd hi i'w ffrindiau a'i theulu. Bu hefyd yn cynnal stondinau yn ysbytai Glangwili a Tywysog Philip yn ogystal â stondin mewn arwerthiant cyst car yn Cross Hands.

Dywedodd Emily: “Cafodd fy Ewythr Keith strôc fawr ym mis Ionawr 2023 a threuliodd bedwar mis ar Ward 9 yn Ysbyty Tywysog Philip. Yn dilyn ei strôc, mae ei fywyd wedi newid yn aruthrol.

“Yn ystod ei arhosiad ar Ward 9, cafodd ofal rhagorol ac fel rhan o’i adsefydlu defnyddiodd feic, yr oedd yr holl gleifion yn hoffi ei ddefnyddio. Fodd bynnag, dim ond un beic sydd. Rwyf wedi bod yn ceisio codi arian ar gyfer ail feic i'r cleifion.

“Diolch i’r staff ar yr Uned Gofal Arbennig Babanod, Ward 9 a Mam, Dad ac Ewythr Keith am fy nghefnogi yn fy her.”

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Emily am wneud ymdrech wych i godi arian ar gyfer Ward 9.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: