Neidio i'r prif gynnwy

Mae Taith Tractor yn codi dros £2,000 ar gyfer y Gronfa Dymuniadau

Yn y llun uchod: Rachel Griffiths, HCSW; Anwen Davies; Nigel Davies; Rachel Brown, Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatrig; a Rebecca Treharne, Cynorthwyydd Chwarae Iechyd.

 

Cododd Taith Tractor Nadolig Cwm Gwendraeth swm gwych o £2,344.11 ar gyfer y Gronfa Dymuniadau.

Mae’r Gronfa Dymuniadau yn apêl sy’n cael ei rhedeg gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae’r apêl yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ac sy’n bygwth bywyd a’u teuluoedd wneud eiliadau hudolus y gellir eu cofio am byth.

Cynhaliwyd y daith tractorau ar 17 Rhagfyr 2023 ar draws Cwm Gwendraeth.

Dywedodd Nigel Davies ac Anwen Davies, trefnwyr y digwyddiad: “Cawsom ddiwrnod ardderchog, daeth cymaint i’n cefnogi, roedd yn llethol. Cawsom lawer o hwyl ac roedd gweld wynebau’r plant i gyd yn rhoi boddhad mawr.”

Dywedodd Rachel Brown, Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatrig, “Da iawn i Anwen, Nigel a’r tîm ar daith tractor llwyddiannus. Diolch yn fawr am ddewis cefnogi'r Gronfa Dymuniadau a chodi swm gwych. Bydd yr arian yn ein helpu i barhau i roi’r cyfle i’r teuluoedd rydyn ni’n eu cefnogi gwneud atgofion hudolus gyda’n gilydd.”

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Dymuniadau, ewch i:

 https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd-a-digwyddiadau/y-gronfa-dymuniadau/

Dilynwch ni: