Neidio i'r prif gynnwy

Elusen GIG yn cynnig cyfleoedd I wneud eich ewyllys a gadael diolch

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi ymuno â chyfreithwyr ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion yn ystod Mis Gwneud Eich Ewyllys (1-31 Mai 2024) i gynnig cyfle i gefnogwyr ysgrifennu neu ddiweddaru ewyllys am bris llawer is. Mae'r cyfreithwyr yn ildio eu ffi arferol yn gyfnewid am rodd i'r elusen.

Mae’r mis ysgrifennu ewyllys yn gyfle perffaith i bobl nad oes ganddyn nhw ewyllys i ysgrifennu un, ac i’r rhai sydd ag ewyllys gyfredol i’w diweddaru. Mae’r elusen yn gofyn am isafswm rhodd o £90 ar gyfer ewyllys sengl a £175 am fwy nag un. Gall y rhai sy’n cymryd rhan sicrhau bod y bobl y maent yn eu caru yn cael eu cofio yn eu hewyllys, ac, os dymunant, eu helusen GIG leol.

Ymysg y Cyfreithwyr sy’n cymryd rhan mae Avery Naylor Family Law, Gomer Williams Solicitors, Jennings Solicitors a Powell Davies Solicitors.

Dywedodd Sian Stevens, cyfreithiwr yn Avery Naylor Family Lawyers: “Mae Mis Gwneud Eich Ewyllys yn gyfle gwych i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Trwy wneud ewyllys gallwch sicrhau y darperir ar gyfer eich teulu a'ch ffrindiau, yn ogystal â'r achosion sy'n bwysig i chi.

“Os oes gennych chi ewyllys yn barod, mae Mis Gwneud Eich Ewyllys yn gyfle perffaith i’w ddiweddaru a gwneud yn siŵr ei fod yn adlewyrchu unrhyw newid yn eich amgylchiadau drwy enedigaeth, profedigaeth, newid mewn statws priodasol, symud tŷ, ac ati.”

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae hwn yn gyfle gwych i sicrhau bod dyfodol eich teulu yn ddiogel ac y bydd eich dymuniadau’n cael eu gwireddu – a hefyd i gefnogi eich GIG lleol.

“Bydd rhodd a wneir i’r elusen yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer. A bydd y rhai sy’n dewis gadael rhodd i Elusennau Iechyd Hywel Dda, waeth pa mor fawr neu fach, yn ddiogel gan wybod y bydd eu cymuned yn teimlo manteision eu caredigrwydd am flynyddoedd i ddod.

“Hoffem ddiolch i’r holl gyfreithwyr a gymerodd ran am eu cefnogaeth wych ac am roi o’u hamser gwerthfawr i ni.”

Nifer cyfyngedig o leoedd ysgrifennu ewyllys sydd ar gael, ac fe’u dyfernir ar sail y cyntaf i’r felin. Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru, ewch i: https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd-a-digwyddiadau/mis-gwneud-eich-ewyllys/

Dilynwch ni: