Yn y llun uchod: Emily Evans, Geraint Evans, Nyrs Haematoleg Heulwen Lewis, a Gareth Hughes.
Cymerodd Geraint Evans a’i dîm gwych o saith ran yn Hanner Marathon Caerdydd ar 6ed Hydref 2024 gan godi £7,000 i Uned Ddydd Leri yn Ysbyty Bronglais.
Rhedodd Geraint, Gareth Kirby, Dan Edwards-Phillips, Rhys Taylor, Gareth Lanagan, Kevin Ashford, Elinor Powell, Holly Hughes a merch Geraint, Emily Evans, y ras i ddiolch am y gofal ardderchog a gafodd Geraint ar yr uned ar ôl iddo fod yn cael diagnosis o myeloma lluosog ddwy flynedd yn ôl.
Meddai Geraint: “Diolch i’r holl dîm gwych a redodd Hanner Caerdydd: Emily, Kevin, Gaz L., Dan, Elinor, Holly a Gaz K. Diolch hefyd i’r Village Idiots a Lost The Plot am gynnal noson wych yn The View, Brynrodyn. A diolch i holl staff Maes Carafanau Brynrodyn am eu holl gymorth.
“Rwyf wedi fy syfrdanu gan haelioni pawb a gyfrannodd a’r swm a godwyd at achos mor deilwng. Diolch.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Geraint a’i dîm am godi swm mor wych ar gyfer Uned Ddydd Leri yn Bronglais.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”