Yn y llun uchod: Eitemau yn y blwch atgofion.
Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu blychau atgofion ar gyfer teuluoedd mewn profedigaeth sydd wedi cael cymorth gan y Gwasanaeth Gofal Lliniarol Pediatrig.
Mae'r blychau atgofion yn cynnwys eitemau fel teganau meddal, blychau cerddoriaeth, fframiau lluniau, dyddlyfrau, canhwyllau a chalonnau pren.
Mae’r blychau wedi’u hariannu gan roddion i’r Gronfa Ddymuniadau, ymgyrch sy’n creu atgofion parhaol i’r plant a’r bobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n bygwth bywyd ac sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd.
Dywedodd Rachel Brown, Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatrig: “Rydym mor ddiolchgar am y rhoddion tuag at y Gronfa Ddymuniadau sydd wedi caniatáu i ni brynu’r blychau atgofion hyn.
“Mae blwch atgofion yn bersonol ac yn ystyrlon iawn ac mae’n anrhydeddu bywyd person. Mae’r blychau yn gysylltiad rhwng y teuluoedd a’u hanwyliaid, maent yn dilysu emosiynau a mynegiant o feddyliau a theimladau yn ogystal â chynorthwyo yn y broses alaru.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar iawn am roddion i’r Gronfa Ddymuniadau sydd wedi ein galluogi i brynu eitemau mor bwysig i deuluoedd a gefnogir gan Gwasanaeth Gofal Lliniarol Pediatrig.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Dysgwch fwy am y Gronfa Ddymuniadau yma: https://elusennauiechydbihyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd/cronfa-dymuniad/