Neidio i'r prif gynnwy

Her Tri Chopa Cymru yn codi dros £15,000 i elusen

Yn y llun uchod: Y tîm a'r staff yn ystod eu cyflwyniad siec.

 

Cwblhaodd grŵp o ffrindiau her Tri Chopa Cymru mewn llai na 15 awr gan godi swm gwych o £15,179 ar gyfer y Tîm Ymateb Acíwt, y Tîm Ymateb Cymunedol a’r Tîm Nyrsio Ardal yng Ngheredigion.

Bu Dylan Parry, Dafydd Williams, James Williams, Carrie Hermitage, Tony Davies, Mark Lloyd, Eurig Davies, Chris Hill a Gareth Thomas i gyd yn herio Pen y Fan, Cadair Idris a’r Wyddfa er cof am eu ffrind agos Richard Evans a fu farw yn anffodus yn dilyn triniaeth ar gyfer canser.

Dywedodd Dylan Parry: “Fe ddechreuon ni’r her ar 15 Medi 2023, fe’i cwblhawyd mewn 14 awr 15 munud. Roedd y profiad yn un heriol ac emosiynol iawn i ni i gyd.

“Roedden ni eisiau dangos ein gwerthfawrogiad o’r nyrsys ardal a oedd yn gofalu am Richard gartref. Mae’r math hwn o ofal yn bwysig iawn yng nghefn gwlad Cymru ac roedd Richard yn ddiolchgar iawn am yr ymweliadau cartref a gafodd.

“Hoffem ddiolch i bawb a roddodd arian i’r achos pwysig hwn, roedd yr ymateb yn anhygoel. Diolch yn arbennig i’r unigolion a’r cwmnïau a noddodd ein her: The Hive Aberaeron, E&M Motor Factor, JWR Rallying, TD Tires Recycling, MSD, I&E Davies Civil Engineering, Station Self Drive, Eugene Mason, Chris Hill. Diolch i'n gyrrwr bws ymroddedig ac i'n teuluoedd am eu cefnogaeth cyn ac ar ôl dringo. Heb y cymorth hwn ni fyddem wedi gallu gwneud yr her.”

Dywedodd Sian Owen Lewis, Nyrs Arweiniol Clinigol: “Diolch yn fawr i deulu a ffrindiau Richard a aeth gam ymhellach a thu hwnt i godi’r swm anhygoel hwn o arian i Nyrsys Cymunedol Ceredigion a’r Tîm Ymateb Acíwt.

“Bydd y cyllid yn ein cefnogi i ddarparu gofal i gleifion yn eu cartrefi eu hunain er mwyn osgoi derbyniadau i’r ysbyty a chefnogi rhyddhau o’r ysbyty. Mae’r tîm nyrsio yn hynod ddiolchgar am y rhodd hon, ac yn falch o fod wedi gallu cefnogi Richard a’i deulu yn ystod ei salwch.”

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian Ceredigion: “Am swm anhygoel a godwyd! Diolch am ymgymryd â her mor enfawr er cof am Richard.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: