Neidio i'r prif gynnwy

Siop EE Aberystwyth yn codi £600 ar gyfer Adran Damweiniau ac Achosion Brys Bronglais

Yn y llun uchod: Llun cyntaf: Staff o EE Aberystwyth. Ail lun (CH-D): Fergus Morris, Dr Jez, Ffion, Matt, Sandra, Princess a Neethu.

 

Cymerodd staff o siop EE yn Aberystwyth ran yn Movember a chodwyd £600 ar gyfer yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Bronglais.

Dywedodd Fergus Morris, Rheolwr Siop EE Aberystwyth: “Penderfynais i a’r tîm godi arian i adran damweiniau ac achosion brys Bronglais drwy gymryd rhan yn Movember sy’n golygu peidio ag eillio ar gyfer mis Tachwedd.

“Mae gen i ac aelodau eraill o’r tîm anwyliaid sydd wedi elwa o wasanaeth rhagorol yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Rydym yn ffodus i gael y cyfleuster hwn gerllaw ac roeddem am roi rhywbeth yn ôl.

“Aeth ein codi arian yn dda. Roeddwn i'n teimlo fel actor o'r 80au, doedd fy merch ddim yn cymeradwyo! Diolch i bawb a gyfrannodd ac i staff Ysbyty Bronglais.”

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i staff siop EE yn Aberystwyth am godi arian ar gyfer ein helusen.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: