Yn y llun uchod: Iesha Henderson.
Ganed Iesha, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, yn Ysbyty Llwynhelyg ac mae wedi bod yn gweithio yno ers bron i bedair blynedd felly roedd hi eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r gwasanaeth.
“Rwyf wedi bod yn cymryd rhedeg o ddifrif ers tua phedwar mis ond o’r blaen byddwn yn rhedeg efallai unwaith bob ychydig wythnosau. Rwy’n mwynhau rhedeg nawr felly o’n i’n meddwl y byddai hyn yn ffordd wych o godi arian i’n ward,” meddai Iesha.
“Mae gen i ddau fachgen hyfryd sy'n gymhellion mawr i'm cadw i hyfforddi. Maen nhw'n mwynhau reidio eu beiciau tra dwi'n rhedeg ac maen nhw wrth eu bodd yn gwneud lapiau o’m cwmpas sawl gwaith!”
Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Pob lwc enfawr i Iesha, edrychwn ymlaen at eich cefnogi yn Ninbych-y-pysgod!
Gallwch gefnogi Iesha drwy gyfrannu yma: https://hyweldda.enthuse.com/pf/iesha-henderson