Yn y llun: Staff Cwm Seren gyda'r offer campfa newydd
Bydd cleifion yn Uned Diogelwch Isel ac Uned Gofal Seiciatrig Dwys Cwm Seren yn elwa o gampfa wedi'i hadnewyddu'n llwyr, diolch i gyllid gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Dyfarnwyd cyfanswm o £8,902 o gronfa Gwneud Gwahaniaeth yr elusen i ddisodli offer campfa sydd wedi dyddio, adnewyddu amgylchedd y gampfa, a darparu hyfforddiant hyfforddwyr campfa i bedwar aelod o staff. Bydd y buddsoddiad yn sicrhau bod gan gleifion fynediad cyson at gyfleusterau o ansawdd uchel sy'n cefnogi eu lles corfforol a meddyliol.
Mae'r gampfa wedi'i hadnewyddu yn cynnwys ystod eang o offer newydd fel melin draed, beic aer, setiau kettlebell a dumbbell, bar a phlatiau Olympaidd, mainc addasadwy a rac sgwat, a matiau llawr amddiffynnol newydd. Mae'r ystafell hefyd wedi'i hailbeintio, wedi'i gosod â byrddau sblasio amddiffynnol, ac wedi'i diweddaru gyda bwrdd gwyn newydd i gefnogi cynllunio gweithgareddau.
Mae gweithgaredd corfforol yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cleifion â salwch meddwl, y gall llawer ohonynt brofi iechyd corfforol gwaeth, risg uwch o ordewdra, a mynediad cyfyngedig at gyfleoedd ymarfer corff cymunedol yn ystod arhosiadau cleifion mewnol.
Dywedodd Caryl Griffiths, Rheolwr Ward yn Uned Diogelwch Isel Cwm Seren: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod rhoddion caredig gan y gymuned leol wedi ariannu adnewyddu’r gampfa, a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’n cleifion a’n staff.
“Mae mynediad dyddiol i gyfleusterau campfa modern yn darparu strwythur, yn lleihau diflastod a rhwystredigaeth, ac yn cael effaith gadarnhaol ar hwyliau, pryder ac iechyd corfforol cyffredinol. Mae hyfforddi staff ychwanegol yn golygu y gallwn gynnig y gampfa saith diwrnod yr wythnos, gan sicrhau bod mwy o gleifion yn elwa’n fwy cyson. Rydym yn gwybod faint o wahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i bobl yn ystod cyfnodau hir o ofal cleifion mewnol.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Diolch i haelioni ein cefnogwyr, rydym yn gallu ariannu prosiectau fel hyn sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu. Bydd y gampfa wedi’i hadnewyddu yng Nghwm Seren yn gwella profiad cleifion ac yn cefnogi ffyrdd o fyw iachach. Diolch yn fawr iawn i’n holl gefnogwyr am wneud hyn yn bosibl.”