Neidio i'r prif gynnwy

Cronfeydd elusennol yn cefnogi cynllun Neges mewn Potel yng Ngheredigion

Yn y llun: Staff yn dal y Negeseuon mewn Poteli.

 

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi darparu cyllid i ddatblygu’r cynllun Neges mewn Potel ar gyfer cleifion ledled Ceredigion sy’n cael eu cefnogi gan y Tîm Gofal Lliniarol Arbenigol.

Mae’r cynllun yn ffordd syml ond effeithiol i gleifion gofal lliniarol gadw eu manylion personol a meddygol mewn cynhwysydd diogel i weithwyr meddygol proffesiynol gael mynediad ato mewn argyfwng. Mae’n golygu y gall unrhyw un sy’n gofalu am glaf gartref gael mynediad at fanylion y perthynas agosaf, DNACPR (Peidiwch â dechrau adfywio cardiopwlmonaidd), Cynllun Gofal yn y Dyfodol, ADRT[MP1.1] (ffurflen Penderfyniad Ymlaen Llaw i Wrthod Triniaeth), neu gyfarwyddyd ysgrifenedig ynghylch ble i ddod o hyd i’r holl ffurflenni pwysig yn y tŷ.

Mae parafeddygon sy’n ymateb i alwadau yng nghartref rhywun eisoes yn defnyddio’r cynllun Neges mewn Potel. Mae gweithwyr proffesiynol yn chwilio am sticer wyrdd y tu mewn i ddrws ffrynt person, sy'n eu rhybuddio am bresenoldeb potel werdd yn yr oergell.

Bydd datblygu’r cynllun fel ei fod yn cael ei ddefnyddio’n ehangach ar draws y sir yn golygu y gall mwy o gleifion elwa o’r cynllun, sy’n gwella cyfathrebu ac yn hyrwyddo gwneud penderfyniadau mwy amserol a diogel. Mae rhaglen debyg yn Sir Gaerfyrddin eisoes wedi dangos yr effaith gadarnhaol y gall y cynllun ei chael.

Dywedodd Carys Stevens, Arweinydd Tîm y Tîm Gofal Lliniarol Arbenigol: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod rhoddion elusennol wedi ein galluogi i ddatblygu’r fenter bwysig hon.

“Mae gan Neges mewn Potel y potensial i gynyddu nifer y diwrnodau y mae ein cleifion yn eu treulio gartref - fel eu man gofal dewisol.

“Mae cael y ffordd safonol hon o storio gwybodaeth a chynlluniau claf yn gwella mynediad at wybodaeth bwysig. Bydd o fudd uniongyrchol a chlir ar ofal cleifion.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: