Yn y llun uchod: Tracy Beynon gyda staff o'r Tîm Rhiwmatoleg yn Ysbyty Llwynhelyg.
Cymerodd Tracy Beynon ran yn Nigwyddiad Tân dan draed Elusennau Iechyd Hywel Dda ym mis Hydref a chodi swm anhygoel o £528 ar gyfer Gwasanaethau Rhiwmatoleg yn Ysbyty Llwynhelyg.
Yn ystod y digwyddiad elusennol, cerddodd y codwyr arian yn droednoeth ar draws marwor 800°C i godi arian i'r GIG.
Roedd Tracy, sydd wedi bod yn aelod o staff yn Llwynhelyg ers 23 mlynedd ac yn glaf Rhiwmatoleg ers 20 mlynedd, wastad eisiau cymryd rhan mewn taith gerdded tân a neidiodd ar y cyfle i wneud un ar gyfer ei bwrdd iechyd lleol.
Dywedodd Tracy: “Dros y blynyddoedd, rydw i wedi gwneud pethau gwyllt i godi arian i wahanol elusennau gan gynnwys eillio fy mhen ar ôl gêm rygbi Chwe Gwlad 11 mlynedd yn ôl.
“Mae Gwasanaeth Rhiwmatoleg wedi gofalu am genedlaethau lawer o fy nheulu dros y blynyddoedd, ac roeddwn i eisiau ceisio rhoi rhywbeth yn ôl i helpu'r tîm a'r cleifion mae’n nhw'n eu gwasanaethu.
“Cefais fy syfrdanu gan faint o arian a godais. Ar ôl i mi roi fideo ar TikTok, cefais nifer o roddion gan bobl nad wyf erioed wedi cwrdd â nhw! Byddaf yn ddiolchgar am byth i fy ffrindiau a'm teulu am gefnogi fy holl syniadau codi arian gwallgof.”
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Diolch yn fawr iawn i Tracy am ddangos ei chefnogaeth i’r gwasanaeth sydd wedi gofalu mor dda amdani ers cyhyd.”