Yn y llun uchod: Liz Hughes ar geffyl.
Yn anffodus, bu farw Liz o ganser ym mis Ionawr 2025 ac roedd yn farchog angerddol a oedd wrth ei bodd yn treulio amser yn y dyffryn gyda'i cheffyl, Betsi, a'i chymuned farchogaeth.
Mae'r digwyddiad, a gynhelir drwy Ddyffryn Rheidol godidog ddydd Sul 7 Mehefin, yn codi arian ar gyfer yr Uned Dydd Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais, a gefnogodd Liz yn ystod ei salwch.
Bydd y reid goffa yn dechrau am 10am, gan ddechrau a gorffen yng Nghanolfan Farchogaeth Rheidol, a bydd yn cynnig tri llwybr i ddiwallu anghenion marchogion o bob gallu: 6 milltir, 8 milltir neu 14 milltir.
Dywedodd Paige Denyer, Swyddog Cymorth Codi Arian: “Rydym yn hynod ddiolchgar i ffrindiau Liz Hughes am drefnu digwyddiad mor ystyrlon er cof am Liz.
“Nid yw'r rhoddion elusennol hael a dderbyniwn yn disodli cyllid y GIG. Yn hytrach, fe'u defnyddir i ddarparu eitemau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG, fel amgylcheddau mwy croesawgar i gleifion, teuluoedd a staff, ac ymchwil i driniaethau, a'u datblygu.”
I gyfrannu at daith goffa Liz, ewch i: https://www.justgiving.com/page/lizhugesmemorialride