Neidio i'r prif gynnwy

Plentyn 10 oed yn rhedeg 60km mewn wythnos ar gyfer gwasanaethau canser lleol

Yn y llun uchod: Caroline, NaIn Eflyn, Eflyn a staff o'r uned cemotherapi yn PPH.

 

Rhedodd Eflyn Ames 60km mewn wythnos a chodi £810 ar gyfer Gwasanaethau Canser yn Ysbyty Tywysog Philip.

Mae Eflyn yn 10 oed, ac mae'n byw gyda'i mam, ei thad, ei dau frawd a'i dau gi swnllyd! Penderfynodd ymgymryd â'r her o redeg 60km mewn wythnos i gydnabod y 60,000 o bobl sy'n cael diagnosis o ganser y fron yn y DU bob blwyddyn.

Dywedodd Eflyn: “Roeddwn i'n rhedeg yn yr awyr agored yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, ar y trac athletau yng Nghaerfyrddin ac ar peiriant rhedeg gartref, wedi fy mhweru gan wyau siocled dros wyliau'r Pasg.

“Mae fy nani, Caroline, wedi cael ei chefnogi gan Dîm Canser y Fron Peony ers sawl blwyddyn ac mae hi bob amser wedi cael gofal da.

“Yn bennaf roedd yn hwyl, ond roedd fy nghoesau a’m traed yn brifo ac roeddwn i’n eithaf blinedig. Roeddwn i’n hoffi Mam yn rhoi siocled i mi ar y peiriant adref serch hynny. Roeddwn i’n falch iawn ohonof fy hun am fod mor benderfynol. Fe wnes i dorri fy nod codi arian a oedd yn wreiddiol yn £100. Roedd pawb mor hael, ac fe godais £810 yn y diwedd. Diolch i bawb a roddodd anogaeth i mi.

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Da iawn a diolch i Eflyn am ymgymryd â her FAWR a chodi £810 anhygoel! Rydym yn hynod ddiolchgar am eich cefnogaeth. Rwyt ti wir yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.

“Nid yw’r rhoddion elusennol hael a dderbyniwn yn disodli cyllid y GIG. Yn lle hynny, maent yn cefnogi eitemau a gweithgareddau ychwanegol y tu allan i wariant craidd y GIG. Mae’r pethau bach ychwanegol hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr, ac rydym mor ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: