Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu set o fanicinau hyfforddi newyddenedigol gwerth dros £5,000. Bydd y manicinau hyn yn cael eu defnyddio i ddarparu hyfforddiant ymarferol i bob aelod o staff newyddenedigol.
Bydd y manicinau – a fydd yn cynnwys modelau tymor llawn a chynamserol – yn cefnogi rhaglenni hyfforddi staff fel cynnal bywyd newyddenedigol, asesu llwybrau anadlu ac efelychu ar ward, ymhlith eraill.
“Mae manicinau realistig yn hanfodol ar gyfer hyfforddiant newyddenedigol effeithiol,” meddai Catrin Jones, Nyrs Ymarfer Newyddenedigol a Datblygiad Proffesiynol ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili. “Bydd y manicinau newydd hyn yn gwella realaeth ac effeithiolrwydd addysg sy’n seiliedig ar efelychu, yn gwella hyder a chymhwysedd staff mewn adfywio newyddenedigol a rheoli llwybrau anadlu, yn cefnogi hyfforddiant tîm amlddisgyblaethol, yn gwella cyfathrebu a gwaith tîm ac yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau a chanllawiau hyfforddi cenedlaethol.”
Ychwanegodd: “Bydd y buddsoddiad hwn o fudd i’r babanod a’r teuluoedd yr ydym yn gofalu amdanynt trwy helpu i sicrhau bod staff wedi’u paratoi’n dda i ymateb i argyfyngau a darparu’r safon gofal uchaf. Bydd y manicinau yn adnodd a rennir, a ddefnyddir ar draws nifer o raglenni ac adrannau hyfforddi, gan wneud y mwyaf o’u heffaith a’u gwerth.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”