Yn y llun uchod: Joel Hardaker a'i dad.
Mae Joel yn cwblhau'r her hon er cof am ei dad, a fu farw'n anffodus yn dilyn brwydr â dementia. Lluniodd ei gryfder a'i amynedd lawer o fywyd Joel, felly roedd Joel eisiau anrhydeddu ei waddol trwy godi arian ar gyfer teuluoedd sy'n parhau i wynebu realiti dementia.
"Efallai bod pobl yn cofio fy nghyflawniadau yn y gorffennol, ond nid ydyn nhw'n gweld y brwydrau tawel y tu ôl i ddrysau caeedig," meddai Joel.
"Y galar, y pwysau, y nosweithiau a dreuliwyd yn colli anwylyd a ddylai fod yma o hyd, fy nhad. Roedd e'n fath o berson a gredai y gallech chi wneud, neu weld, neu wynebu unrhyw beth pe bai rhywun yn sefyll wrth eich ymyl. I mi, y rhywun hwnnw oedd ef.
"Pan oeddwn i'n iau, roeddwn i'n ofnus o'r môr. Roedd y tonnau'n teimlo'n rhy fawr, y dŵr yn rhy ddwfn, a gwnaeth y meddwl am gamu i mewn iddo i'm stumog droi. Ond ni fyddai tad yn gadael i ofn fod y peth a’m dal yn ôl.
“Rwy’n cofio un diwrnod ar y traeth, sefais ar lan y dŵr, gan wrthod mynd ymhellach, tra roedd yn fy annog yn amyneddgar. Ni wnaeth fy ngwthio na’m rhuthro. Yn lle hynny, daliodd fy llaw, dywedodd wrthyf y byddem yn mynd un cam ar y tro, ac addawodd na fyddai’n gadael i mi fynd. Dros y blynyddoedd, gam wrth gam, gyda’i law yn fy llaw i, cerddais i’r dŵr. Dyna oedd fy nhad. Tawel, amyneddgar, a bob amser yno pan oeddwn ei angen fwyaf. Fe helpodd fi i ddod o hyd i ddewrder nad oeddwn yn meddwl oedd gen i.”
Dioddefodd y teulu golled mam Joel yn gynharach hefyd, ac yn y blynyddoedd diweddarach gwylion nhw eu tad yn wynebu effeithiau dinistriol dementia.
“Trwy’r boen honno, gwnaeth dad bopeth o fewn ei allu i’n cadw ni’n gryf ac gyda’n gilydd. Roedd fy mrodyr, Luke, Charles, Ollie, a minnau bob amser yn gwybod ei fod yno i ni, yn ein tywys trwy fywyd y ffordd orau y gallai.
“Dechreuodd dementia gymryd darnau ohono i ffwrdd yn araf. Mae gwylio rhywun mor gryf yn pylu'n araf yn rhywbeth nad yw unrhyw deulu byth yn barod amdano. Nid yw dementia yn effeithio ar un person yn unig, mae'n effeithio ar bawb sy'n eu caru.
“Mae colli tad wedi gadael lle enfawr yn ein bywydau, ond mae hefyd wedi rhoi rheswm inni geisio helpu eraill sy'n mynd trwy'r un peth. Os gallwch chi roi rhodd, rhannu, neu gefnogi mewn unrhyw ffordd, byddai wir yn golygu'r byd. Mae pob cyfraniad yn helpu i gefnogi ymchwil dementia a gofalu am deuluoedd sy'n wynebu'r un clefyd torcalonnus.
“Mae hyn ar gyfer fy nhad. Y dyn a helpodd fi i wynebu'r môr, ac a ddysgodd i mi y gellir wynebu hyd yn oed yr ofnau mwyaf pan fydd rhywun rydych chi'n ei garu wrth eich ymyl.”
Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym wedi ein hysbrydoli gan stori Joel a'i benderfyniad i roi rhywbeth yn ôl i wasanaethau dementia. Pob lwc Joel, edrychwn ymlaen at dy gefnogi!
“Nid yw’r rhoddion elusennol hael a dderbyniwn yn disodli cyllid y GIG. Yn hytrach, cânt eu defnyddio i ddarparu eitemau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG, fel amgylcheddau mwy croesawgar i gleifion, teuluoedd a staff, ac ymchwil i driniaethau, a’u datblygu.”
Gallwch gefnogi Joel drwy gyfrannu yma: