Yn y llun uchod (o'r chwith i'r dde): Anne-Louise, Mam Rhys; Mr a Mrs Morris, Nain a Taid Rhys; Bethan Osmundsen, Uwch Reolwr Nyrs Pediatreg Acíwt a Sally Preece, Prif Nyrs Iau.
Cymerodd teulu Rhys Calthorpe, a fu farw yn drist yn 14 oed, ran unwaith eto yn nofio Dydd Calan Saundersfoot er cof amdano a chodi swm anhygoel o £1,000 ar gyfer ward plant Cilgerran yn Ysbyty Glangwili.
Yn anffodus, bu farw Rhys ym mis Gorffennaf 2023 oherwydd Lewcemia Myeloid Acíwt. Bu farw Rhys yn dawel yng nghartref ei nain a'i daid, lle'r oedd yn dymuno aros, gyda'i deulu o'i gwmpas.
Dywedodd Mr. Morris, Taid Rhys: “Diolch i bawb a roddodd a'n noddi eto eleni ac am y tair blynedd diwethaf.
“Roedden ni'n emosiynol iawn pan gawson ni wybod bod y cyfanswm yn £1,000. Dyma ein ffordd ni o ddweud diolch i'r tîm gwych a ofalodd am Rhys a'n teulu.”
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Diolch o galon i deulu Rhys am eich ymdrech anhygoel a'ch haelioni wrth gymryd rhan yn Nofio Dydd Calan Saundersfoot. Mae eich cefnogaeth i Ward Cilgerran yn golygu cymaint, ac mae eich parodrwydd i herio'r oerfel i godi arian yn ysbrydoledig. Rydym mor ddiolchgar ac mae'n deyrnged hyfryd i Rhys.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”