Yn y llun uchod: Staff o Ward Padarn gyda Mr Hugh Davies a'i ferch, Mrs Elin Harris.
Yn anffodus bu farw Doris, o Dryslwyn, gartref ar 26 Chwefror 2026, wedi'i hamgylchynu gan gariad.
Er cof amdani, bu teulu, ffrindiau a chymdogion yn garedig iawn yn cyfrannu’r arian i Ward Padarn fel arwydd o’u diolchgarwch am y gofal gwych a roddwyd i Doris ac am y tosturi a’r gefnogaeth a ddangoswyd i’w gŵr ers 60 mlynedd yn ystod cyfnod anodd iawn.
Mae'r teulu hefyd wedi rhoi rhodd i Marie Curie i werthfawrogi'r gofal a roddwyd i Doris ar ôl iddi gael ei rhyddhau o'r ysbyty.
Ar ben-blwydd Doris, ymwelodd y teulu â Ward Padarn i ddweud diolch yn bersonol a chyflwyno’r siec.
Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i Mr. Hugh Davies a Mrs. Elin Harris, ac i’w holl deulu, ffrindiau, a chymdogion, am eu caredigrwydd a’u haelioni. Mae’r rhodd arbennig hon er cof am Doris yn deyrnged hyfryd a fydd yn cael ei chofio a’i gwerthfawrogi gan lawer.
“Nid yw’r rhoddion elusennol hael a gawn yn disodli cyllid y GIG. Yn hytrach, maent yn cefnogi eitemau a gweithgareddau ychwanegol y tu allan i wariant craidd y GIG. Mae’r pethau ychwanegol bach hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr, ac rydym mor ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”