Neidio i'r prif gynnwy

Mae clustogau newydd a ariennir gan elusen yn dod â chysur i gleifion canser

Yn y llun: Elin Davies, Arbenigwr Nyrsio Clinigol y Colon a'r Rhefr, gyda Chlustog Valley.

 

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu gwerth dros £4,000 o Clustogau Valley a fydd yn rhoi cysur a lleddfu poen i gleifion canser y colon a’r rhefr.

Mae'r clustogau wedi'u cynllunio i leddfu pwysau ac anghysur yn y perinëwm. Maent yn hyrwyddo cylchrediad, yn annog draeniad lymffatig, ac yn cefnogi atgyweirio clwyfau, gan helpu'r corff i wella'n gyflymach.

Dywedodd Nerys Thomas, Nyrs Glinigol Arbenigol y Colon a’r Rhefr: “Rydym mor falch bod rhoddion elusennol wedi ein galluogi i brynu 20 o glustogau Valley ar gyfer ein cleifion y colon a’r rhefr.

“Mae’r clustogau hyn yn darparu cysur hanfodol i’n cleifion yn dilyn llawdriniaeth y colon a’r rhefr. Maent yn cefnogi iachau ac yn caniatáu i gleifion eistedd yn haws, gan eu helpu i gynnal annibyniaeth a hyder yn ystod adferiad.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: