Neidio i'r prif gynnwy

Elusen y GIG yn ariannu teganau meddal i helpu plant a phobl ifanc i ddeall profedigaeth

Yn y llun uchod: Staff o Ward Meurig gyda'r teganau meddal.

 

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu detholiad o deganau meddal ar gyfer teuluoedd cleifion ar Ward Meurig yn Ysbyty Bronglais sy'n wynebu newyddion drwg a phrofedigaeth.

Mae elusen y GIG wedi prynu teganau meddal gwerth dros £200 gan Ymddiriedolaeth Osborne, fel eu tedi Ozzy yr Eliffant. Rhoddir y teganau hyn i blant a phobl ifanc y mae eu hanwyliaid ar y ward yn ddifrifol wael neu wedi marw yn anffodus, gan gynnig cysur a sicrwydd hanfodol yn ystod rhai o'r adegau anoddaf yn eu bywydau.

Dywedodd Ellen Masters, Gweinyddwr y Ward: “Rydym yn hynod ddiolchgar am y rhoddion sydd wedi ein galluogi i brynu'r teganau meddal ar gyfer Ward Meurig.

“Rhoddir y tedis yn benodol i gynnig cefnogaeth a chysur i blant cleifion ar Ward Meurig pan fydd rhywun agos atynt yn ddifrifol wael neu pan fyddant yn galaru, gan eu helpu i deimlo'n ddiogel a chael eu cefnogi pan fydd eu byd yn teimlo'n ansicr.

“I blant sy'n ymdopi â cholled, gall tegan meddal weithredu fel presenoldeb cyson, cyfarwydd ar adeg pan fo emosiynau'n llethol, gan roi rhywbeth iddynt ddal gafael ynddo am gynhesrwydd, sefydlogrwydd a mynegiant emosiynol.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: