Yn y llun uchod: Emily Williams, Jo Richards, Lucy Duncanson, Charlie Harries, Iona Harries, Jon Morris, Nigel George (Cadeirydd y Clwb) a Trystan Sion.
Mae digwyddiad codi arian a drefnwyd gan Glwb Bowlio Caerfyrddin a theulu Harries wedi codi £453 ar gyfer Tîm Ysmygu a Llesiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er cof am aelod annwyl o'r clwb, Martyn Harries.
Fe wnaethant drefnu cwis a raffl yng Nghlwb Bowlio Caerfyrddin yn San Pedr, Caerfyrddin ar 17 Ebrill 2026, a ddaeth ag aelodau, ffrindiau a theulu ynghyd i ddathlu bywyd Martyn wrth gefnogi achos pwysig.
Daeth y syniad ar gyfer y digwyddiad codi arian gan ŵyr 14 oed Martyn, Charlie Harries, a oedd am anrhydeddu cof ei daid wrth helpu eraill sy'n ysmygu hefyd.
Roedd Martyn, a fu farw'n anffodus ym mis Chwefror 2024, yn aelod gwerthfawr ac annwyl o'r clwb bowlio, ac roedd y digwyddiad yn deyrnged.
Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Glwb Bowlio Caerfyrddin, Charlie a gweddill teulu Harries am ddewis cefnogi ein helusen er cof am Martyn.
“Nid yw'r rhoddion elusennol hael a dderbyniwn yn disodli cyllid y GIG. Yn hytrach, cânt eu defnyddio i ddarparu eitemau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG, fel amgylcheddau mwy croesawgar i gleifion, teuluoedd a staff, ac ymchwil i driniaethau, a'u datblygu.”