Yn y llun uchod: Aelodau Clwb Rotari Caerfyrddin Tywi gyda Claire Rumble, Swyddog Codi Arian.
Mae Clwb Rotari Tywi Caerfyrddin yn rhan o sefydliad gwasanaeth Rotari byd-eang sydd ag 1.2 miliwn o aelodau ledled y byd. Maent yn grŵp lleol o wirfoddolwyr sy'n dod at ei gilydd i gefnogi eu cymuned trwy ystod eang o weithgareddau codi arian, gan gynnwys diwrnodau golff, cyngherddau a'r ras hwyaid boblogaidd a gynhelir ochr yn ochr â Gŵyl Afon Caerfyrddin.
Ym mis Chwefror 2026, trefnodd y clwb ginio chwaraeon yng Nghlwb Quins Caerfyrddin yn cynnwys y siaradwr gwadd o dîm rygbi rhyngwladol Cymru a'r llewod Prydeinig ac Iwerddon, Colin Charvis, gyda chefnogaeth y MC Brian Harries.
Dywedodd Phillip Williams, Llywydd y Clwb: “Mae codi arian a chefnogi achosion teilwng yng ngwaed y Rotari ac ar yr achlysur hwn, penderfynwyd cefnogi’r ddau achos hyn oherwydd y synergedd rhwng y ddau sefydliad. Mae’r sgrinio canser y prostad a drefnwyd gan Prostate Cymru wedi achub bywydau ymhlith aelodau, teulu, ffrindiau a’r gymuned ehangach, yn enwedig oherwydd y driniaeth a’r gefnogaeth a ddarparwyd gan y tîm ymroddedig yn Uned Cemotherapi Ysbyty Glangwili.
“Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gyda 140 o westeion yn bresennol a gafodd eu diddanu gan Colin gyda straeon am ei yrfa a’r byd rygbi yn ogystal â’i rôl fel Llysgennad Prostate Cymru. Cadwodd y MC Brian Harries y digwyddiad i fynd gyda hiwmor a ffraethineb, gan annog gwesteion i roi’n hael yn ystod yr ocsiwn hefyd.
“Codwyd £5,000, a oedd yn rhagori ar bob disgwyliad gyda hanner yr arian yn cael ei roi i Elusennau Iechyd Hywel Dda a hanner i Prostate Cymru.
“Hoffem ddiolch i’n noddwyr a’n gwesteion a gefnogodd y digwyddiad mor hael. Diolch arbennig hefyd i Mike, Kath a’r holl dîm yng Nghlwb Rygbi Quins Caerfyrddin am ddarparu bwyd a gwasanaeth mor ardderchog.”
Dywedodd Jessica Michael, Prif Nyrs: “Ar ran y staff a’r cleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili, hoffwn ddiolch i Glwb Rotari Caerfyrddin Tywi am eu cefnogaeth a’u codi arian a arweiniodd at rodd hael iawn o £2,500.
“Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r amgylchedd a gwella’r ffordd rydym yn gofalu am gleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi. Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at y gwelliant hwn.”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Glwb Rotari Caerfyrddin Tywi am eu cefnogaeth. Bydd eu codi arian yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion sy’n derbyn gofal yn yr Uned Ddydd Cemotherapi.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”