Yn y llun uchod: Aelodau o Glwb Golff Abaty Glyn gyda Claire Rumble, Swyddog Codi Arian.
Cynhaliwyd y diwrnod golff ar 21 Mehefin 2025 yng Nghlwb Golff Abaty Glyn. Dewisodd y clwb gefnogi Gwasanaethau Cardioleg ar ôl i nifer o aelodau a staff elwa'n ddiweddar o ofal rhagorol a ddarparwyd gan y tîm.
Dywedodd Rachel Lawrence, Aelod o Glwb Golff Abaty Glyn: “Daeth y diwrnod golff ag aelodau ynghyd am ddiwrnod llawn gweithgareddau ac ysbryd cymunedol.
“Canolbwyntiodd y digwyddiad o amgylch rownd o golff, gyda chyfranogwyr yn cyfrannu trwy ffioedd mynediad a heriau ar y cwrs. Oddi ar y cwrs, mwynhaodd yr aelodau bryd o fwyd, tra codwyd arian ychwanegol trwy raffl ac ocsiwn a gefnogwyd yn dda, yn cynnwys amrywiaeth o wobrau a roddwyd yn hael.
“Un o uchafbwyntiau'r diwrnod oedd cystadleuaeth “Chippio” poblogaidd y clwb, a ychwanegodd elfen hwyliog a chystadleuol wrth roi hwb pellach i'r cyfanswm a godwyd. Gwnaeth y cyfuniad o chwaraeon, cymdeithasu a chodi arian yn ddigwyddiad gwych a chofiadwy i bawb a oedd yn rhan ohono.
“Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle ystyrlon i'r clwb roi yn ôl a dangos ei ddiolchgarwch am ymroddiad ac arbenigedd y Tîm Cardioleg.
“Roedd y codi arian yn llwyddiant ysgubol ac yn brofiad pleserus iawn i bawb a oedd yn rhan ohono. Roedd yn hwyl fawr o’r dechrau i’r diwedd, gan ddod ag aelodau ynghyd mewn awyrgylch cadarnhaol ac egnïol iawn. Roedd yna ymdeimlad gwirioneddol o frwdfrydedd a gwaith tîm drwyddo draw, ac roedd yn hynod werth chweil gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan ac yn cefnogi achos mor werth chweil. Ar y cyfan, roedd yn ddiwrnod gwych a gyfunodd hwyl, ysbryd cymunedol, ac awydd cyffredin i roi rhywbeth yn ôl.
“Codwyd ychydig dros £2,400 ar y diwrnod, gan ragori’n sylweddol ar bob disgwyl. Gwnaeth hyn hi’n un o Ddiwrnodau Elusennol Dai Gravell mwyaf llwyddiannus yn hanes y clwb, gan adlewyrchu’r gefnogaeth a’r haelioni gwych a ddangoswyd gan aelodau a chyfranogwyr drwy gydol y digwyddiad.
“Diolch i staff y lawntiau, staff y bar a’r gegin, y rheolwyr a’r aelodau a rhaid diolch yn arbennig i’r Is-gapten, Lee Harries, am ei waith rhagorol a’i ymdrech fel Is-gapten y Clwb a threfnydd diwrnod Dai Gravell.”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb yng Nghlwb Golff Abaty Glyn am eu cefnogaeth anhygoel. Mae’r ymdrech a aeth i mewn i drefnu’r diwrnod, ynghyd â’r haelioni a ddangoswyd gan bawb a gymerodd ran, yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”