Yn y llun uchod (o'r chwith i'r dde): Claire Rumble, Swyddog Codi Arian; Denise Maters, Amy Carroll, Babi Elsi Morgan, Jenny Jo Morgan, Mared Davies, Babi Bleddyn, Nigel Bryant a Glyn Bryant.
Mae Clwb Henebion Dyffryn Tywi wedi rhoi £200 yn hael i'r Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.
Mae Clwb Henebion Dyffryn Tywi yn sefydliad dielw wedi’i leoli yn Sir Gaerfyrddin. Mae gan aelodau’r Clwb amrywiaeth eang o hen bethau fel tractorau, ceir a beiciau modur.
Cynhaliodd y Clwb ei 29ain sioe henebion flynyddol ym mis Mehefin ar Faes Sioe Pontargothi.
Dywedodd Mared Davies, Aelod o’r Clwb Henebion: “Cafodd fy mab, Bleddyn Dafi Bryant, ofal a chefnogaeth hanfodol yn yr uned yn ystod wythnos gyntaf ei fywyd. Roedd y staff yn gefnogol a chyfeillgar iawn.”
Dywedodd Sandra Pegram, Rheolwr yr Uned: “Rydym mor ddiolchgar am y rhodd hael hwn i’r Uned Gofal Arbennig i Fabanod a fydd yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer. Bydd yn gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i brofiad ein cleifion a’u teuluoedd. Diolch enfawr oddi wrthym ni i gyd!”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”