Yn y llun uchod: Un o'r tri set deledu newydd sydd wedi'u gosod ar y ward
Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu tri set deledu ar gyfer yr Uned Gofal Dwys (ICU) yn Ysbyty Glangwili, diolch i roddion.
Dywedodd Tammy Bowen, Uwch Brif Nyrs: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu tri set deledu newydd ar gyfer yr Uned Gofal Dwys.
“Mae’r Uned Gofal Dwys yn amgylchedd prysur a swnllyd i gleifion oherwydd bod y peiriannau a’r larymau’n gwneud synau’n barhaus drwy’r dydd a’r nos. Trwy ddarparu setiau teledu i gleifion mae'n tynnu sylw oddi wrth synau'r larymau peiriant. Bydd hyn yn rhoi teimlad o normalrwydd a chynefindra i gleifion, a fydd, gobeithio, yn hybu iachâd.
“Mae ymchwil wedi canfod yn gyson bod cerddoriaeth a thynnu sylw yn lleihau deliriwm, yn gwella lles cleifion, yn cyflymu adferiad ac yn helpu i hwyluso rhyddhau llwyddiannus.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”