Neidio i'r prif gynnwy

Dawns yn codi dros £3,000 ar gyfer Uned Asesu Meddygol Acíwt

Yn y llun uchod o'r chwith i'r dde: Rosemary Jones, Uwch Brif Nyrs; Amie Palferman, Prif Nyrs; Katie Richards a'i mab, Carter Hoppe.

 

Dawns elusennol wedi codi dros £3,000 ar gyfer yr Uned Asesu Meddygol Acíwt (AMAU) yn Ysbyty Tywysog Philip.

Trefnodd Katie Richards y ddawns ‘Dancing Through The Decades’, a oedd yn noson o fwyta, cerddoriaeth fyw a glits, er cof am ei Mam, Sandra Bradley.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn y Ystafell Quinell ym Mharc y Scarlets, Llanelli ar ddydd Sadwrn 8fed Gorffennaf.

Dywedodd Katie: “Rwy’n falch iawn o allu rhoi’r arian hwn i’r Uned Asesu Meddygol Acíwt yn Ysbyty Tywysog Philip er cof am fy Mam.

“Roedd y ddawns yn llwyddiant ysgubol. Cafodd pawb amser mor anhygoel. Roedd yn werth chweil gweld faint o arian yr oeddem wedi'i godi. Byddwn yn bendant yn ystyried trefnu un arall.

“Mae’n deimlad gwych meddwl fy mod wedi chwarae rhan helpu i wella gwasanaeth i gleifion a’u teuluoedd.

“Diolch i fy ffrindiau a fy nheulu am gefnogi a mynychu.”

Dywedodd Rosemary Jones, Uwch Brif Nyrs: “Rydym yn hynod ddiolchgar am yr ymdrech y mae Katie wedi mynd iddi er mwyn codi arian i AMAU er cof am ei mam, Sandra Bradley. Rwy’n dychmygu bod trefnu dawns yn waith caled, ac mae’n deyrnged wych i’w Mam ei bod wedi rhoi cymaint o ymdrech. Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol, diolch.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: