Yn y Llun o’r chwith i’r dde: Mike Daniel a pherchennog y dafarn Lee Slaymaker yn cyflwyno siec o £4,500 i Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda, Bridget Harpwood.
Mae tafarn The Hoptimist yn Aberystwyth, wedi codi swm anhygoel o £4,500 ar gyfer Gwasanaethau Canser y Pen a’r Gwddf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Cafodd Mike Daniel, sy’n gwsmer yn y dafarn, ddiagnosis o ganser y gwddf yn 2022 a derbyniodd ofal a thriniaeth ragorol gan dîm Gwasanaethau Canser y Pen a’r Gwddf.
Dywedodd perchennog y dafarn, Lee Slaymaker: “Gan fod Mike yn gwsmer rheoliadd yn y dafarn, roedden ni wir eisiau helpu i gefnogi’r gwasanaeth a helpodd i ofalu amdano yn dilyn ei ddiagnosis.
“Cynhaliom sawl digwyddiad codi arian y Nadolig diwethaf gan gynnwys raffl ac arwerthiant a gafodd gefnogaeth dda iawn gan y gymuned leol.”
Dywedodd Mike: “Ar ôl cael diagnosis o ganser y gwddf yn 2022 roeddwn i dan ofal tîm Gwasanaethau Canser y Pen a’r Gwddf Hywel Dda.
“Roeddwn i eisiau codi arian i roi rhywbeth yn ôl ar gyfer yr holl ofal a chefnogaeth maen nhw wedi'i roi i mi trwy gydol fy nhriniaeth. Mae Lee a’r tîm yn The Hoptimist wedi bod yn hynod hael a chefnogol, ni allaf ddiolch digon iddyn nhw!”
Rhoddwyd yr arian i Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae arian a roddir i'r elusen yn cefnogi gwasanaethau'r GIG i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG.
Dywedodd Alis Evans, Nyrs Glinigol Arbenigol Canser y Pen a’r Gwddf Macmillan: “Fel tîm, hoffem estyn ein diolch o galon i’r Hoptimist, Aberystwyth, Mike Daniel a’r gymuned ehangach am y swm syfrdanol hwn a godwyd ar gyfer Gwasanaethau Canser Pen a Gwddf Hywel Dda.
“Bydd y rhodd hon yn ein galluogi i ddarparu cymorth ac adnoddau i gleifion a’u teuluoedd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer.”