Neidio i'r prif gynnwy

Prynu tecylyn tynnu sylw Buzzy Bee diolch i gronfeydd elusennol

Yn y llun uchod: Paul Harries, Arbenigwr Chwarae Iechyd, gyda'r teclyn Buzzy Bee ac eitemau a ddefnyddir ar gyfer profion gwaed.

 

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu chwe theclyn tynnu sylw Buzzy Bee.

Mae elusen y GIG wedi prynu chwe theclyn tynnu sylw Buzzy Bee i'w defnyddio ar draws y tair sir, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Gwenynen fach sy'n dirgrynu yw'r teclyn sy'n helpu i rwystro poen sydyn ac sy'n tynnu sylw plant a phobl ifanc wrth roi pigiadau neu weithdrefnau meddygol eraill.

Mae’r Buzzy Bee yn drysu nerfau’r corff ac yn tynnu sylw oddi wrth y boen, gan bylu neu ddileu poen pigiad sydyn.

Dywedodd Paul Harries, Arbenigwr Chwarae Iechyd: "Rydym yn ddiolchgar iawn am y dyfeisiau tynnu sylw newydd Buzzy Bee. Maent wedi profi i fod yn arfau effeithiol i dynnu sylw plant a phobl ifanc oddi wrth boen, yn ystod gweithdrefnau fel profion gwaed a chanwleiddiadau.

“Rydym eisoes wedi bod yn defnyddio’r ddyfais gyda chleifion mewnol a chleifion allanol mewn ysbytai ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a byddwn nawr yn ehangu eu defnydd mewn lleoliadau cymunedol hefyd.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: