Yn y Llun gwelir(Ch-Dd): Mr Islam Abdelrahman, Ymgynghorydd Arweiniol Oncoleg Gynaecoleg; Helen Frise-Jones, Nyrs Glinigol Arbenigol Gynaecoleg Oncoleg a Dr Manal Elbadrawy, Ymgynghorydd Gynaecoleg.
Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu cadair archwilio gynaecoleg ar gost o £5,834 i'w defnyddio yn Ysbyty Glangwili, Sir Gaerfyrddin.
Bydd y gadair, a fydd yn cael ei defnyddio i helpu cleifion yn yr ystafell archwilio clinigol newydd yn Ysbyty Glangwili, yn galluogi staff i weld, adolygu ac ymgynghori â chleifion canser gynaecoleg mewn modd mwy amserol.
Dywedodd Helen Frise-Jones, Nyrs Glinigol Arbenigol Gynaecoleg Oncoleg: “Rydym yn hynod ddiolchgar am y rhoddion sydd wedi galluogi’r gadair hon i gael ei phrynu ar gyfer yr ystafell archwiliadau clinigol newydd.
“Mae’r gadair newydd wedi galluogi ein gwasanaethau i ddarparu ystafell Mynediad Cyflym benodedig lle gallwn weld cleifion yr amheuir neu y canfyddir bod ganddynt ganser gynaecoleg. Mae’r ystafell newydd hon wedi cyflymu amseroedd aros y llwybr canser drwy gyfeirio cleifion yn syth i’r clinig hwn.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”