Yn y llun, o’r chwith i’r dde: Alison Partridge, Paul Kirk a Sheila Waters
Cyflwynodd Paul Kirk, Trysorydd Clwb Rygbi Hendy-gwyn ar Daf, rodd o £500 i'r Uned Gofal Arbennig Babanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili ar ran y clwb.
Codwyd yr arian yn y gêm 'Diwrnod Merched' Hendy-gwyn ar Daf v Crymych o gasgliad bwced hanner amser a raffl yn y clwb. Gwnaeth y clwb rygbi gyfraniad hefyd.
Dywedodd Paul: “Mae’r Uned Gofal Arbennig Babanod yn gwneud gwaith gwych ac yn ddiweddar mae wedi gofalu am deuluoedd cyn-chwaraewyr Clwb Rygbi Hendy-gwyn, Matt, Jess a Jonathan. Boed iddynt barhau â’u gwaith hanfodol.”
Dywedodd Sandra Pegram, Rheolwr Uned Gofal Arbennig Babanod: “Rydym mor ddiolchgar am y rhodd hael hwn i’r Uned Gofal Arbennig Babanod. Bydd yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer.
“Bydd yn gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i brofiad ein cleifion a’u teuluoedd. Diolch enfawr oddi wrthym ni i gyd!”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym eisiau dweud diolch enfawr Paul a Chlwb Rygbi Hendy-gwyn am eu rhodd hael.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”