Neidio i'r prif gynnwy

Capel yn cyfrannu £1,000 at Apêl Cemo Bronglais

Mae aelodau Capel y Garn yn Bow Street, ger Aberystwyth, wedi cyfrannu £1,000 o gronfeydd y capel i Apêl Cemo Bronglais.

Dywedodd trysorydd y capel, Glyn Saunders Jones: “Roedd ein Gweinidog, y Parch Ddr Watcyn James, yr aelodau a’r swyddogion yn frwd i gyfrannu at Apêl Cemo Bronglais.

“Roeddent yn awyddus i ddangos eu gwerthfawrogiad o’r arbenigedd a’r gofal a ddarperir gan yr ymgynghorydd oncoleg a gofal, cefnogaeth, a charedigrwydd y staff nyrsio ac aelodau’r tîm yn Ysbyty Bronglais.

“Roedd pawb wedi ymrwymo i ddangos eu cefnogaeth lwyr i uned ddydd newydd a fyddai’n gwella darpariaeth cemotherapi a gofal yn lleol. Bydd yr uned newydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion a’u teuluoedd.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, sydd wedi bod yn rhedeg yr Apêl: “Cafodd Apêl Chemo Bronglais ei lansio i godi’r £500,000 terfynol sydd ei angen ar gyfer adeiladu uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais. Mae'n bleser gennym adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.

“Rydym yn ddiolchgar i aelodau Capel y Garn am eu cefnogaeth ac i bawb sydd wedi cyfrannu at yr Apêl i’n helpu i gyrraedd ein targed.”

Dilynwch ni: