Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn galw ar gefnogwyr i godi arian ar gyfer eu GIG i ddathlu ei ben-blwydd yn 75 eleni.
Mae elusen y GIG yn codi arian i ddarparu gweithgareddau a gwasanaethau ychwanegol sydd y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer.
Mae’r elusen yn gwahodd unigolion a chymunedau i ddangos eu cariad at eu GIG drwy gael hwyl gyda’r thema pen-blwydd yn 75 oed.
Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian: “Fodd bynnag y mae pobl yn codi arian, a faint bynnag y maent yn ei godi, bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i brofiadau cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.
“Mae’r elusen yn codi arian ar gyfer nifer o wasanaethau a gweithgareddau: gallai’r rhain fod yn gysur ychwanegol i gleifion, offer meddygol cyfoes, mentrau datblygu a lles staff, neu amgylchedd mwy croesawgar i gleifion.
“Rydym am i ben-blwydd eleni yn 75 oed ysbrydoli pobl i ddangos eu cariad at y GIG, a chael llawer o hwyl yn y broses!”
Mae pobl sy’n codi arian yn cael eu gwahodd i fod mor greadigol ag y dymunant gyda’r thema #GIG75, er enghraifft, drwy:
Ychwanegodd Tara: “Os hoffech chi godi arian ar gyfer eich elusen GIG y flwyddyn arbennig hon, mae croeso i chi gysylltu â ni. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych, ac mae ein tîm codi arian wrth law i gynnig cymorth, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth.”
Mae mwy o wybodaeth am ymgyrch #GIG75 Elusennau Iechyd Hywel Dda ar gael yma.