Neidio i'r prif gynnwy

GIG75

GIG75

Carwch #EichElusenGIG wrth i'r GIG droi'n 75!

Yn 2023 bydd ein GIG yn troi’n 75. I ddangos eich cariad, beth am feddwl am ffyrdd hwyliog a chreadigol o godi arian ar gyfer eich elusen GIG?

Yn Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, rydym yn codi arian i ddarparu’r pethau ychwanegol arbennig hynny sydd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu. Gallai’r rhain gynnwys cysuron ychwanegol i gleifion, offer meddygol cyfoes, mentrau datblygu a llesiant staff, neu amgylchedd mwy croesawgar i gleifion.

 

Byddwch yn greadigol!

Gallech chi wneud rhywbeth mawr neu fach i gefnogi eich GIG yn ei flwyddyn pen-blwydd mawr. Bydd beth bynnag a godwch yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i brofiadau cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff ar draws y bwrdd iechyd.

Er enghraifft, fe allech chi...

  • Cerdded, rhedeg, nofio neu feicio 75 milltir yn 2023 a gofyn i'w ffrindiau a'u teulu eu noddi
  • Cynnal te parti a chodi 75c am baned a chacen
  • Trefnu ffair sborion 75c-yr-eitem 
  • Cynnal raffl am 75c y tocyn 
  • Golchi ceir am £7.50 y car (bargen!)
  • Cynnal diwrnod ‘henebion’ a chludo eu ffrindiau a’u teulu yn ôl i 1948
  • Gwnewch nofio noddedig a gwnewch 75 lap
  • Gwneud tawelwch noddedig sy'n para 7.5 awr
  • Cynnal diwrnod ‘gwisgo lan fel nyrs neu feddyg’ mewn ysgol neu ddiwrnod dillad eich hun gyda chyfraniad o 75c.

...ac mae'r rhestr yn mynd ymlaen! Am lawer mwy o syniadau gweler ein Pecyn Cymorth Codi Arian (yn agor mewn dolen newydd)

Camau nesaf

I roi neu sefydlu eich tudalen codi arian ar-lein #GIG75 eich hun cliciwch yma (yn agor mewn dolen newydd).


Mae ein tîm codi arian wrth law i gynnig cymorth, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth:

Rhif ffôn 01267 239815

E-bost: Fundraising.HywelDda@wales.nhs.uk 

 

Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych!

#GIG75

Dilynwch ni: