Yn y llun uchod: Y grŵp cymorth ar waith.
Fe wnaethon ni ariannu llogi'r theatr yn yr ardd, lluniaeth a chacennau Cymreig traddodiadol i gleifion a'u teuluoedd a fynychodd y digwyddiad. Roedd llogi'r lleoliad hefyd yn cynnwys mynediad i'r gerddi, gan ganiatáu i'r mynychwyr fwynhau'r amgylchoedd heddychlon wrth gysylltu ag eraill sy'n deall yr heriau o fyw gyda chanser y pen a'r gwddf ac adfer ohono.
Mynychodd cyfanswm o 68 o bobl y digwyddiad, gan gynnwys cleifion, aelodau o'r teulu, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, elusennau a sefydliadau cymorth. Rhoddodd stondinau gwybodaeth gyfle i'r mynychwyr ddysgu am y cymorth sydd ar gael iddynt, tra bod y lleoliad anffurfiol yn annog sgwrs, rhannu profiadau a chefnogaeth gan gymheiriaid.
Mae'r grŵp cymorth wedi cael effaith enfawr ar gleifion. Dywedodd un aelod: "Gall byw gyda chanser y pen a'r gwddf fod yn brofiad unig iawn, ond wrth fynychu'r grŵp cymorth, teimlais fy mod yn cael fy neall a'm cefnogi, a chefais obaith. Mae'r gallu i gwrdd ag eraill, gofyn cwestiynau a chael mynediad at gymaint o wasanaethau defnyddiol mewn un lle wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'm hadferiad a'm lles."
Siaradodd Mikhaela Jones, Cynorthwyydd Cymorth Gwasanaethau’r Pen a’r Gwddf Macmillan – a helpodd i drefnu’r digwyddiad – am yr effaith y mae cyllid elusennol wedi’i chael ar eu gwasanaeth: “Roedd ein Grŵp Cymorth Canser y Pen a’r Gwddf diweddar yn atgof gwych o ba mor effeithiol yw’r digwyddiadau hyn.”
“Roedd gweld cleifion, teuluoedd a sefydliadau cymorth yn dod at ei gilydd, yn rhannu profiadau ac yn meithrin cysylltiadau newydd yn brofiad hynod werth chweil. Dangosodd yr adborth cadarnhaol gan y rhai a fynychodd pa mor werthfawr yw'r grwpiau cymorth hyn i'n cleifion.
“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Elusennau Iechyd Hywel Dda a Gwasanaethau Hywel Dda, a ddaeth draw i arddangos y gefnogaeth anhygoel maen nhw’n ei chynnig i’n cleifion a’u teuluoedd. Roedd gweld pawb yn dod at ei gilydd yn atgof pwerus o werth gweithio mewn partneriaeth a’r gwahaniaeth y mae’r digwyddiadau hyn yn ei wneud i’n cleifion.”
Dywedodd Alis Evans, Nyrs Arbenigol mewn Canser y Pen a'r Gwddf: "Mae'r grŵp cymorth ar gyfer canser y pen a'r gwddf yn darparu amgylchedd diogel a llawn dealltwriaeth, lle gall pobl rannu eu profiadau, eu heriau a'u llwyddiannau gydag eraill sy'n deall yn iawn beth maen nhw'n mynd drwyddo."
“Mae'r grŵp cymorth hefyd yn atgyfnerthu'r wybodaeth a ddarperir gan y tîm amlddisgyblaethol, yn hyrwyddo hunanreoli, ac yn annog cleifion i geisio cymorth yn gynnar os oes ganddynt unrhyw bryderon.
“Mae cymorth gan gymheiriaid yn ategu gofal clinigol drwy fynd i'r afael ag anghenion emosiynol, cymdeithasol ac ymarferol nad ydynt bob amser yn cael eu diwallu'n llawn yn ystod apwyntiadau arferol. Yn gyffredinol, mae'r grŵp cymorth yn elfen bwysig o ofal cyfannol sy'n canolbwyntio ar y claf, ac mae'n cael effaith gadarnhaol ar adferiad a lles hirdymor cleifion.”
Dywedodd Miriam Brown, Deietegydd Canser y Pen a'r Gwddf: "Gall triniaeth ar gyfer canser y pen a'r gwddf gael effaith ddofn ar allu person i fwyta ac yfed. Gall y broses o wella ar ôl triniaethau fel llawdriniaeth a radiotherapi newid bywydau, gyda llawer o bobl yn parhau i brofi sgil-effeithiau hirdymor – gan gynnwys newidiadau i'r blas, ceg sych, ac anhawster cnoi a llyncu – fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd ar ôl y driniaeth."
“Mae'r grŵp cymorth yn cynnig cyfle amhrisiadwy i gleifion rannu eu profiadau, eu heriau a strategaethau ymarferol ar gyfer rheoli bwyta ac yfed ar ôl triniaeth. Er ein bod ni, fel deietegwyr, yn gallu cynnig cyngor sy'n seiliedig ar dystiolaeth a defnyddio ein profiad clinigol o gefnogi cleifion, mae clywed straeon uniongyrchol a dysgu gan eraill sydd wedi wynebu heriau tebyg yn cynnig persbectif unigryw na ellir ei ail-greu mewn ymgynghoriad clinigol.
“Atgyfnerthodd hyn bwysigrwydd cymorth gan gymheiriaid ochr yn ochr â mewnbwn proffesiynol, ac amlygodd werth gwrando ar brofiadau byw cleifion er mwyn deall eu hanghenion parhaus yn well a gwella'r cymorth rydym yn ei ddarparu.”
Mae cleifion y gwasanaeth yn parhau i weld manteision ac effaith gadarnhaol y digwyddiadau hyn a ariennir gan elusennau.
Dywedodd un claf: “Bues i’n cwrdd, ar hap, â rhywun oedd ar yr un cam o wella â mi yn y grŵp. Buom yn cyfnewid awgrymiadau a gwybodaeth ddefnyddiol.”
Ychwanegodd cyfranogwr arall: "Roedd cyfarfod â chleifion eraill, gofalwyr a staff cymorth i gyd yn yr un lle – er mwyn rhannu profiadau a deall pa gymorth sydd ar gael – yn hynod werthfawr."
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd yn gweld yr effaith gadarnhaol y mae’r grwpiau cymorth a ariennir gan yr elusen yn ei chael ar gleifion ac aelodau o’r staff.”
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”