Neidio i'r prif gynnwy

Ysgol Gynradd Felinfach yn codi dros £700 ar gyfer Uned cemo Bronglais

Yn y llun: Paige Denyer o Elusennau Iechyd Hywel Dda yn derbyn siec am £724

 

Mae Ysgol Gynradd Felinfach wedi codi dros £700 ar gyfer yr uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Bronglais drwy gynnal prynhawn coffi.

Yn ystod y digwyddiad, a gynhaliwyd ar 14eg Mehefin ar fuarth yr ysgol, bu rhieni a chefnogwyr yn mwynhau coffi, te a chacen a phrynu nwyddau gan y disgyblion oedd ag amrywiaeth o stondinau. Cawsant gyfle hefyd i gymryd rhan mewn raffl.

Dywedodd yr athrawes Rhian England: “Roedd yn ddiwrnod hyfryd a chafwyd cefnogaeth wych gan rieni a chymuned yr ysgol.

“Fe wnaethon ni godi cyfanswm o £724. Pan fyddwch chi'n meddwl bod y prynhawn coffi wedi para tua dwy awr yn unig, mae hynny'n swm anhygoel!

“Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i gefnogi’r ysgol. Braf oedd gweld cymaint o rieni a chefnogwyr o’r gymuned yn mwynhau paned a sgwrs.”

Dilynwch ni: