Neidio i'r prif gynnwy

Tim Evans yn ymgymryd a Phenwythnos Cwrs Hir i godi arian ar gyfer uned cemo Ysbyty Tywysog Philip

Mae Tîm Evans – tîm codi arian gwych o dros 30 o deulu a ffrindiau – yn cynnal digwyddiad rhedeg 5k Cymru ar y Penwythnos Cwrs Hir ar 2 Gorffennaf i godi arian ar gyfer yr uned cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.

Fis Awst diwethaf, cafodd y triathletwr Wayne Evans, o Llanelli, ddiagnosis o ganser datblygedig y pancreas gyda chanserau pellach mewn pedair ardal eilaidd. Mae Wayne wedi hyfforddi a chystadlu mewn digwyddiadau erioed ac roedd i fod i wneud Ironman Cymru yn Ninbych-y-pysgod fis Medi diwethaf, ond yn anffodus ni ddigwyddodd hyn oherwydd ei ddiagnosis.

Yn anhygoel, er gwaethaf ei ddiagnosis, cwblhaodd Wayne driathlonau Sbrint Abertawe a Llanelli yn ddiweddarach y flwyddyn honno fel rhan o dîm lle bu’n cerdded neu’n rhedeg y ras 5k.

Eleni, mae Wayne a'i gefnogwyr wedi penderfynu cymryd rhan yn 5k Cymru i godi arian ar gyfer yr uned cemotherapi fel diolch am y gofal rhagorol y maent wedi'i ddarparu.

Cafodd y tîm leoedd am ddim yn y digwyddiad gan Activity Wales ac Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Bydd grŵp o gefnogwyr hefyd yn dilyn ochr yn ochr i gefnogi'r rhedwyr.

Yn ogystal, mae cyfranogwyr eraill yn cefnogi trwy brynu crysau T a chyfrannu.

Dywedodd Charlotte Evans, gwraig Wayne: “Mae’r tîm yn yr uned cemo wedi ein cefnogi ers diwedd mis Awst. Maent yn anhygoel ac yn haeddu cymaint o gydnabyddiaeth â phosibl.

“Y digwyddiad llawn diwethaf y cymerodd Wayne ran ynddo oedd y Penwythnos Cwrs Hir y llynedd: dechreuodd gael symptomau amlwg erbyn amser y digwyddiad ac yn anffodus aeth i lawr y rhiw oddi yno.

“Mae Wayne yn ddyn mor boblogaidd ac rydym wrth ein bodd yn gweld cymaint o bobl yn cefnogi’r digwyddiad codi arian. Mae hwn yn mynd i fod yn un emosiynol iddo gan y byddai'n flwyddyn ers ei ddigwyddiad llawn diwethaf. Ond rydym yn gobeithio ei wneud yn ddiwrnod gwych lle byddwn yn dod at ein gilydd fel tîm a chyflawni rhywbeth arbennig iawn.”

Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym eisiau dweud pob lwc a diolch i Tîm Evans! Bydd yr arian a godir yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn i gleifion a staff uned cemotherapi Tywysog Philip. Edrychwn ymlaen at eich cefnogi!”

Gellir rhoi rhoddion i Team Evans yn:Fundraiser by Charlotte Evans : Team Evans 5K (gofundme.com)

Dilynwch ni: