Neidio i'r prif gynnwy

Staff yn Ysbyty Llwynhelyg yn derbyn hyfforddiant dementia diolch i gronfeydd elusennol

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu hyfforddiant dementia arbenigol i aelodau staff Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg.

Mynychodd dros 100 o aelodau staff y diwrnod hyfforddi ‘Dewch i Siarad Dementia’ ym mis Medi 2022.

Rhoddodd y diwrnod hyfforddi gyfle i staff brofi Taith Dementia Rithwir mewn efelychydd dementia symudol.

Roedd yr hyfforddiant yn galluogi staff i gael profiad o sut deimlad yw byw gyda Dementia ac yn eu galluogi i ddeall y newidiadau syml sydd eu hangen yn eu hymarfer a’u hamgylchedd i wella bywydau pobl sy’n byw gyda dementia.

Dywedodd Nicola Zroud, Uwch Reolwr Nyrsio: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi ariannu’r hyfforddiant. Roedd yn gyfle ymarferol a phwerus i helpu i ymgorffori arfer da a gwella dysgu a datblygiad ein staff.

“Ar ôl profi’r hyfforddiant, mae ein staff yn gallu uniaethu ag ymddygiad ac anghenion y rhai yn eu gofal a’u deall yn well. Mae’r hyfforddiant wedi eu galluogi i gael gwell dealltwriaeth o ddementia a darparu gofal dementia yn ddiogel.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: