Neidio i'r prif gynnwy

Mae offer biopsi a ariennir gan elusen yn dod â manteision mawr i gleifion Hywel Dda

Yn y llun o'r chwith gyda'r peiriant biopsi newydd: Nyrsys Arbenigol Wolfgang Ackerman, David Ceri Thomas a Nicola Thomas; Ymgynghorydd Mr Yeung Ng, a Gweithiwr Cymorth Canser Janet Mackrell

 

Mae cyfarpar biopsi newydd a brynwyd gyda chronfeydd elusennol yn cael effaith gadarnhaol ar brofiad cleifion ar draws rhanbarth Hywel Dda sy’n cael eu profi am ganser y prostad.

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu’r offer biopsi trawsberineol diweddaraf ar gyfer Ysbyty Tywysog Philip gwerth £50,000, yn dilyn rhodd o £30,000 gan Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gorllewin Cymru.

Mae'r cyfarpar biopsi newydd yn cael ei ddefnyddio i brofi am y posibilrwydd o ganser y prostad. Yn flaenorol, dim ond un peiriant biopsi oedd gan wasanaeth wroleg Hywel Dda yn Ysbyty Glangwili. Fodd bynnag, ni chynhaliodd y peiriant hwn fiopsi trawsberineol, gweithdrefn fwy cywir.

Dywedodd Mr Ng, Wrolegydd Ymgynghorol: “Mae prynu’r cyfarpar hwn yn gam pwysig yn y newid llawn i fiopsi trawsberineol ar gyfer y brostad ac yn elfen allweddol o’r prosiect presennol a ariennir gan Cancer Research UK i ddarparu gwasanaeth diagnostig canser y brostad o safon aur yn Hywel Dda. Rwy’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth barhaus partneriaid elusen a grwpiau cleifion i’n galluogi i ddarparu hyn.”

Dywedodd Neil Griffiths, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau Wroleg: “Nid yn unig y mae’r cyfarpar newydd wedi ein galluogi i gynyddu capasiti biopsïau’r prostad ar gyfer holl gleifion Hywel Dda sy’n cael eu hatgyfeirio ag amheuaeth o ganser y brostad; mae hefyd wedi ein galluogi i gynnal y biopsïau trawsberineol uwch yn Ysbyty Tywysog Philip.

“Mae hyn wedi bod o fudd i gleifion drwy leihau amseroedd aros a’r angen i deithio i dderbyn y gwasanaeth gorau posibl.

“Mae hefyd wedi gwella morâl staff gan ei fod yn caniatáu i ni ddarparu gwell gofal i’n cleifion.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae’r pryniant yn galluogi’r bwrdd iechyd i barhau â gwasanaeth biopsi prostad gynaliadwy ac uwch.

“Mae’n dangos sut mae cefnogaeth hael ein cymunedau lleol yn ei gwneud hi’n bosibl i ni ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda. Rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: