Neidio i'r prif gynnwy

Mae elusen GIG yn ariannu pethau ymolch ar gyfer cleifion mewnol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Yn y llun uchod: Honey Owens, Prentis Profiad y Claf, gyda'r pethau ymolch

 

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi gallu prynu pethau ymolchi i gleifion mewnol ar draws holl safleoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae'r pethau ymolch yn cynnwys brwsys dannedd, past dannedd, crwybrau, siampŵ a chyflyrydd.

Nid oes gan lawer o gleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty y modd ariannol, na chymorth teulu, i brynu cynhyrchion hylendid hanfodol.

Dywedodd Honey Owens, Prentis Profiad y Claf: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu’r pethau ymolchi hyn ar gyfer cleifion mewnol ar draws y bwrdd iechyd.

“Mae cael yr eitemau ymolch hyn i gleifion yn fantais enfawr, maen nhw’n gallu ymarfer hylendid da yn ystod eu harhosiad a all eu helpu yn feddyliol ac yn gorfforol.”

Dilynwch ni: