Neidio i'r prif gynnwy

Ysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin yn codi £600 ar gyfer uned cemotherapi

Yn y llun uchod: Disgyblion o Ysgol Bancyfelin gyda Swyddog Cefnogi Codi Arian, Diane Henry-Thomas.

 

Mae Ysgol Bancyfelin wedi codi £600 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.

Trefnodd y cyngor ysgol fore coffi ar 4ydd Hydref 2024 i godi arian.

Dywedodd Rhian Rees, Athrawes yn Ysgol Bancyfelin: “Trefnodd y cyngor ysgol fore coffi i godi arian ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi. Fe drefnon nhw amser, lle, cacennau, baneri a thaflenni printiedig i rieni.

“Roedd y plant eisiau codi arian at achos lleol sy’n cynnig triniaeth a chefnogaeth i drigolion Bancyfelin.

“Roedd yn rhoi boddhad mawr. Cefnogwyd y digwyddiad gan rieni trwy ddarparu cacennau ar gyfer y bore coffi. Mwynhaodd y plant gynnal y digwyddiad a chroesawu eu rhieni a thrigolion Bancyfelin i’r ysgol. Diolch i rieni, staff, plant a thrigolion y pentref am gefnogi.”

Dywedodd Diane Henry-Thomas, Swyddog Cymorth Codi Arian; “Diolch i ddisgyblion a staff Ysgol Bancyfelin am gefnogi’r Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili yn ystod eu bore coffi.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: